Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 17EG MEDI, 2021 PDF 361 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021, gan ei fod yn gywir. |
|
Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO PDF 236 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r defnydd o guddwylio gan yr Awdurdod yn ystod 2021. Nodwyd hefyd bod dogfen weithdrefn y Cyngor wedi'i hadolygu ac nad oedd angen unrhyw newidiadau.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: · Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig; · Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol; · Rhyng-gipio Data Cyfathrebu; · Cuddwylio Anawdurdodedig; · Adroddiadau Ystadegol; · Dogfen Gweithdrefnau Cuddwylio. · Hyfforddiant
Nododd yr Aelod Cabinet nad oedd unrhyw awdurdodiadau wedi'u cyflwyno dan y Ddeddf hon yn ystod 2021 ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig, ffynonellau cuddwybodaeth ddynol a rhyng-gipio data cyfathrebu.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai sesiwn hyfforddi gloywi yn cael ei threfnu'r flwyddyn galendr hon a bod pob Cyfarwyddwr eisoes wedi cael ei ofyn i ganfasio staff ar gyfer sesiynau hyfforddi. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y byddai'n fodlon ymgymryd â hyfforddiant uniongyrchol gyda Swyddogion Gorfodi Rheolau Cynllunio ac unrhyw swyddogion cynllunio eraill a allai elwa o ymgymryd â hyfforddiant cuddwylio.
PENDERFYNWYD: 3.1 nodi'r gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2021;
3.2 cymeradwyo'r Weithdrefn Arolygu Corfforaethol ar gynnal gwyliadwriaeth ar gyfer 2022. |
|
DATGANIAD GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO'R CYNGOR PDF 448 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion y Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio.
Nodwyd y cafodd y Polisi Gorfodi presennol ei ddatblygu yn 2015 a bod Polisi Gorfodi Corfforaethol cyffredinol wedi'i fabwysiadu ym mis Ebrill 2018. Diweddarwyd y Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio gwreiddiol yn dilyn canfyddiadau Adolygiad Archwilio Cymru ac i ystyried y newidiadau yn yr amgylchedd mewnol ac allanol.
Roedd datganiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: · Eglurhad ar yr hyn a oedd yn torri rheol a'r hyn nad oedd yn torri rheol. · Adolygiad o'r dulliau adrodd cyfredol gan gynnwys y polisi ar geisiadau am wasanaeth gan achwynwyr dienw · Gwybodaeth am wahanol gamau'r ymchwiliad a beth i'w ddisgwyl · Nodi'r Targedau Gwasanaeth yr oedd yr adran yn anelu at eu cyflawni · Nodi'r 3 Blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb y toriad honedig a'r amserlenni ar gyfer ymweliadau gan y gwasanaeth. · Gwybodaeth am sut mae'r awdurdod yn rheoli canmoliaeth a chwynion
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio. |