Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLWYBR TROED CYHOEDDUS 10/1, THE PLASH INN, LLANFALLTEG PDF 1 MB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais am wyro Llwybr Troed Cyhoeddus Cofrestredig 10/1 o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980, er budd perchennog y tir.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y dylai'r paragraff yn yr adran 'Argymhellion / penderfyniadau allweddol sydd eu hangen' ar glawr yr adroddiad ddarllen fel a ganlyn: 'Cymeradwyaeth gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i wneud y Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus angenrheidiol.'
Roedd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad wedi dod i'r casgliad fod y cais yn bodloni'r meini prawf a bennwyd yn y Ddeddf uchod, sef ei bod yn hwylus fod cwrs y llwybr neu ran o'r llwybr yn cael ei wyro er budd naill ai perchennog, daliwr prydles, neu feddiannwr y tir a groesir gan y llwybr neu er budd y cyhoedd, ac nad oedd y gwyriad arfaethedig llawer yn llai cyfleus i'r cyhoedd, nac ychwaith yn effeithio'n andwyol ar fwynhad y cyhoedd o'r llwybr yn ei gyfanrwydd.
Eglurodd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad y cais a thynnodd sylw yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y cynnig i ddargyfeirio llwybr, fel y manylir yn y map sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.
Esboniodd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad fod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad anstatudol cyn y gorchymyn ag ymgyngoreion statudol a phartïon sydd â buddiant mewn ymgais i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a/neu ymholiadau a godwyd o blaid neu yn erbyn y cynnig. Yn ogystal, er mwyn cydymffurfio â gwyro hawliau tramwy cyhoeddus a gynhaliwyd dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980, byddai'r Awdurdod, petai'r gorchymyn yn cael ei gymeradwyo, yn cychwyn ar ymgynghoriad cyhoeddus statudol ffurfiol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am wyro Llwybr Troed Cyhoeddus Cofrestredig 10/1, y Plash Inn, Llanfallteg, a gwneud y Gorchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus priodol yn unol ag adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1.
|
|
LLWYBR TROED CYHOEDDUS 14/6, DOLCOED, LLANLLWNI PDF 1 MB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrd85737ithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais am wyro Llwybr Troed Cyhoeddus Cofrestredig 14/6 o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980, er budd perchennog y tir.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y dylai'r paragraff yn yr adran 'Argymhellion / penderfyniadau allweddol sydd eu hangen' ar glawr yr adroddiad ddarllen fel a ganlyn: 'Cymeradwyaeth gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i wneud y Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus angenrheidiol.'
Roedd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad wedi dod i'r casgliad fod y cais yn bodloni'r meini prawf a bennwyd yn y Ddeddf uchod, sef ei bod yn hwylus fod cwrs y llwybr neu ran o'r llwybr yn cael ei wyro er budd naill ai perchennog, daliwr prydles, neu feddiannwr y tir a groesir gan y llwybr neu er budd y cyhoedd, ac nad oedd y gwyriad arfaethedig llawer yn llai cyfleus i'r cyhoedd, nac ychwaith yn effeithio'n andwyol ar fwynhad y cyhoedd o'r llwybr yn ei gyfanrwydd.
Eglurodd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad y cais a thynnodd sylw yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y cynnig i ddargyfeirio llwybr, fel y manylir yn y map sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.
Esboniodd y Swyddog Mynediad Cefn Gwlad fod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad anstatudol cyn y gorchymyn ag ymgyngoreion statudol a phartïon sydd â buddiant mewn ymgais i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a/neu ymholiadau a godwyd o blaid neu yn erbyn y cynnig. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr ymgeisydd yn bwriadu rhoi mesurau ar waith er mwyn datrys rhai o'r problemau ynghylch preifatrwydd personol a godwyd gan wrthwynebwyr.
Yn ogystal, er mwyn cydymffurfio â gwyro hawliau tramwy cyhoeddus a gynhaliwyd dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980, byddai'r Awdurdod, petai'r gorchymyn yn cael ei gymeradwyo, yn cychwyn ar ymgynghoriad cyhoeddus statudol ffurfiol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am wyro Llwybr Troed Cyhoeddus Cofrestredig 14/6, Dolcoed, Llanllwni, a gwneud y Gorchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus priodol yn unol ag adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
|
|
CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR: |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod
Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar
22Mawrth 2018,
gan ei fod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2018, gan ei fod yn gywir.
|