Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.
|
|
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DISGWYDDIADAU PDF 278 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran twristiaeth, cymunedau a'r economi. Darparodd y Swyddog Adfywio Cymunedol a'r Cynorthwy-ydd Marchnata a Thwristiaeth fanylion pellach am bob digwyddiad.
Yn dilyn trafodaeth ynghylch y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, gofynnwyd i'r swyddogion gynnal adolygiad o'r dyddiadau cau cyn y flwyddyn ariannol nesaf yn 2018/19.
PENDERFYNWYD 3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:- Digwyddiad Dyfarniad
Carnifal Gorslas 2017 £423.25 Hydref 2017 Rali Peiriannau Stêm y Ffordd a'r Rheilffordd £750.00 G?yl Ddefaid Llanymddyfri £1000.00 Hanner Marathon Llanelli £2000.00 G?yl Gerdded Llanelli 2018 (blwyddyn ariannol 2018/19) £500.00
3.2 bod Swyddogion yn adolygu dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau cyn y flwyddyn ariannol nesaf 2018/19.
|
|
TALIADAU HAMDDEN 2017-18 PDF 285 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2017-18 a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffioedd manwl ar gyfer 2017-18 sy'n ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2017/18. Roedd yr adroddiad yn cynnwys codi tâl am y canlynol:-
· Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr) · Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio) · Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys y Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn
PENDERFYNWYD cymeradwyo Taliadau Hamdden 2017-18 fel y nodir yn yr adroddiad.
|