Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: There were no declarations of personal interest.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 24 Hydref, 2017 yn gofnod cywir.
|
|
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU RHAGFYR 2017 PDF 201 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran twristiaeth, cymunedau a'r economi. Rhoddodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau ragor o wybodaeth am bob digwyddiad.
O ran cais "Wythnos Gymraeg" Tref Caerfyrddin dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau fod cymorth wedi'i roi yn y blynyddoedd blaenorol i'r digwyddiad hwn ac argymhellwyd bod cymorth yn cael ei roi eto yn 2018. Fodd bynnag, dywedwyd y dylai ceisiadau ar gyfer y digwyddiad hwn yn y dyfodol ymdrechu i gynnwys cyfleoedd ychwanegol i dyfu'r digwyddiad i fod yn ddigwyddiad sirol ar gyfer y gynulleidfa ehangach. Awgrymwyd y gellid cyflawni hyn drwy ddefnyddio'r Cylch Rhwydwaith Digwyddiadau a thrwy geisio incwm gan noddwr masnachol lleol a fyddai'n galluogi'r digwyddiad i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai'r meini prawf cymhwyso newydd, a fyddai'n cynnwys themâu allweddol ar gyfer 2018/19 a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, yn cael eu darparu i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD 3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:- Digwyddiad Dyfarniad
Blwyddyn Ariannol 2017/18:- · "Wythnos Gymraeg" Tref Caerfyrddin £2000.00
Blwyddyn Ariannol 2018/19:- · Ras Beicio Mynydd Battle on the Beach 2018 £2000.00
|