Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||
CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 11EG AWST 2017 PDF 107 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Awst 2017 yn gofnod cywir.
|
|||||
POLISÏAU I GEFNOGI FFURFLEN SAFON ACHREDU AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN PDF 198 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i'r polisïau presennol canlynol sy'n ymwneud â'r gwaith o redeg y Gwasanaeth Amgueddfeydd; fe'u cymeradwywyd yn flaenorol gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden ar 15ed Mawrth 2013.
· Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Datganiad y Polisi Mynediad (2017-2022) · Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Datblygu Casgliadau (2017-2022) · Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Gofal a Chadwraeth Casgliadau (2017-2022) · Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Datganiad y Polisi Dogfennaeth (2017-2022) · Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Cynaliadwyedd Amgylcheddol (2017-2022)
Nodwyd bod yn rhaid i'r Awdurdod ddarparu tystiolaeth, o dan y Broses Achredu Amgueddfeydd, fod ei bolisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u cymeradwyo'n ffurfiol yn y ffurflen achredu, a hynny erbyn 31 Hydref, 2017.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd at Ddatganiad y Polisi Dogfennaeth a rhoddodd wybod y byddai'r frawddeg gyntaf ar dudalen 4, parthed ‘Rheoli Mynediad at Wybodaeth Sensitif’, yn cael ei newid, yn amodol ar ei chymeradwyo, i ddarllen fel a ganlyn: “Bydd yr holl geisiadau am wybodaeth yn cael eu hystyried o ran eu cydymffurfiaeth â Mesur Diogelu Data 2017, Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)…….”
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y newid uchod i Ddatganiad y Polisi Dogfennaeth, fod y newidiadau arfaethedig i'r pum dogfen bolisi yn cael eu cymeradwyo er mwyn eu cynnwys yng nghais yr Awdurdod am Safon Achredu.
|
|||||
ADFER AC AILDDOSBARTHU GRANT DATBLYGU CELFYDDYDAU CYMUNEDOL PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y cynigion bod yr Awdurdod yn ceisio adennill y swm o £8,496.90 gan Llais (corff ymbarél ar gyfer theatr ieuenctid yn y Sir) oedd yn rhan o grant datblygu celfyddydau cymunedol a dalwyd i'r mudiad yn 2012 ond na ddosbarthwyd.
Rhoddodd Pen-swyddog y Celfyddydau wybod y bwriedir, ar ôl adennill y grant, roi'r arian yn ôl i'r Gronfa Diwylliant / Celfyddydau i'w ailddosbarthu i fudiadau drwy iddynt wneud cais am grant bach, gan ddefnyddio'r ffurflen gais a atodir i'r adroddiad, i gefnogi eu gwaith datblygu celfyddydau.
PENDERFYNWYD
|