Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
GWRTHWYNEBIAD I'R TWMPATH ARAFU ESTYNEDIG ARFAETHEDIG YN FFAIRFACH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar wrthwynebiad a gafwyd i fwriad gan y Cyngor i gyflwyno twmpath arafu estynedig ar yr A476 yn Heol Myrddin, Ffair-fach i leihau cyflymder traffig i gefnogi ymestyn y terfyn cyflymder 20mya presennol wrth ddynesu at y cynllun goleuadau traffig a gynlluniwyd ar gyfer Sgwâr Ffair-fach. Os caiff ei gyflwyno, byddai'r twmpath arafu estynedig hefyd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ar hyd y llwybr cerdded sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth wrth gerdded i Ysgol Uwchradd Bro Dinefwr.
Dywedwyd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er yr ymgynghorwyd â'r holl randdeiliaid statudol ac ni chafwyd gwrthwynebiad i'r cynnig ganddynt, dywedwyd bod un gwrthwynebiad wedi dod i law gan aelod o'r cyhoedd, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a nodir y sylwadau ac argymhellion y swyddog yn Atodiad 3.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad a oedd wedi dod i law i'r bwriad i gyflwyno twmpath arafu estynedig ar yr A476 Heol Myrddin, Ffair-fach ond mynd rhagddo â'r cynnig er budd diogelwch ar y ffyrdd
|
|
GWRTHWYNEBIAD I'R TWMPATHAU FFORDD ARFAETHEDIG YN NANTGAREDIG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar wrthwynebiad a gafwyd i fwriad gan y Cyngor i gyflwyno twmpathau ffordd ar y B4310 y tu allan i Ysgol Gynradd Nantgaredig i gefnogi terfyn cyflymder arfaethedig o 20mya. Os cant eu cyflwyno, byddai'r twmpathau ffordd yn cefnogi ac yn gwella diogelwch ar y ffordd y tu allan i ysgol gynradd.
Dywedwyd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er yr ymgynghorwyd â'r holl randdeiliaid statudol ac ni chafwyd gwrthwynebiad ganddynt i'r cynnig, dywedwyd bod un gwrthwynebiad wedi dod i law gan aelod o'r cyhoedd, fel y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a nodwyd sylwadau ac argymhellion y swyddog yn Atodiad 3.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad a oedd wedi dod i law i'r bwriad i gyflwyno twmpathau ffordd ar y B4310 y tu allan i Ysgol Nantgaredig, ond mynd rhagddo â'r cynnig er mwyn cefnogi'r terfyn cyflymder 20mya arfaethedig ac er budd diogelwch ar y ffyrdd
|
|
PENDERFYNIAD AR GYFER LLWYBR RHANNU DEFNYDD AR HYD HEOL ELLI A HEOL TROSTRE, LLANELLI Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion i newid y droedffordd bresennol ger Heol Elli a Heol Trostre Llanelli yn gyfleuster ar y cyd i feicwyr ac i gerddwyr. Os caiff ei gyflwyno, byddai'n llunio rhan o gynllun diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol ehangach a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal gyda'r nod o annog cynnydd mewn cerdded a beicio drwy wella'r llwybrau presennol a gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio i ysgolion lleol.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol bod y weithdrefn briodol ar gyfer newid troedffordd yn llwybr beicio yn golygu gwaredu'r droedffordd o dan Adran 66(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ac adeiladu llwybr beicio newydd, gyda hawl tramwy i gerddwyr, o dan Adran 65(1) o'r Ddeddf. Er y byddai'r cyfleuster newydd yn cael ei ystyried yn llwybr beicio, byddai'n cynnwys hawl tramwy i gerddwyr, sy'n esbonio'r term 'defnydd a rennir’
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r holl randdeiliaid statudol, gan gynnwys eiddo a oedd gerllaw'r llwybr, ac ni chafwyd gwrthwynebiad i'r cynllun.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r penderfyniad i newid y droedffordd bresennol gerllaw Heol Elli a Heol Trostre i lwybr beicio a rennir gyda hawl tramwy i gerddwyr
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD - IONAWR 27AIN, 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, a oedd wedi ei gynnal ar 27 Ionawr, 2021, gan ei fod yn gofnod cywir.
|