Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANAU PERSONNOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
I ARWYDDO COFNOD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 12EG O ORFFENNAF 2018 PDF 105 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i wneud Gorchymyn yn amrywio cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd (Llanelli) (Amrywiad 33). Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod wyth gwrthwynebiad/sylw a deiseb yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 (Gwrthwynebiadau a Sylwadau) yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Argymhellwyd bwrw ati â'r cynigion, fel y manylwyd yn Atodiad 1 (Hysbysiad Cyhoeddus) ac Atodiad 2 (Cynlluniau), a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr am hynny. PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau/sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas ag amrywio'r cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd mewn amrywiol leoliadau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newidiadau y manylwyd arnynt yn adran 3.2, ond bod y Gorchmynion yn cael eu cadarnhau a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.
|