Lleoliad: Aml leoliad - Ystafell Bwyllgor 3, Llawr Gwaelod - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd J. P. Hart. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION |
|
5 MAWRTH 2024 - 10:00 YB PDF 75 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024, 10:00yb gan eu bod yn gywir.
|
|
5 MAWRTH 2024 - 10:10 YB PDF 70 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024, 10:10yb gan eu bod yn gywir.
|
|
5 MAWRTH 2024 - 10:20 YB PDF 70 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024, 10:20yb gan eu bod yn gywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD O.M. & L.M. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.
Bu'r Panel yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd ynghylch penderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod rhoi cludiant ysgol am ddim i O.M. & L.M. i ysgol nad oedd yn ysgol agosaf nac ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac felly nid oedd yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym mholisi'r Cyngor ar gyfer darparu cymorth.
Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau unigol yr achos, ynghyd â sylwadau'r swyddogion adrannol.
PENDERFYNWYD bod yr apêl a gyflwynwyd gan O.M. & L.M. am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.
|