Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 22ain Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.</AI1>

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR AWDURDOD LLEOL pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol

Penodiadau

Pen-bre

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

Mrs J Davies

Rhys Pritchard

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Y Parch. I. Aveson

Y Cynghorydd I.J. Jackson

Stebonheath

(1 lle gwag, 2 enwebiad)

Y Cynghorydd J. Edmunds

Dyffryn Aman

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

Mrs M. Wyn

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth                               

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

Mrs M. Evans

 

3.

CYMERADWYO DYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU YSGOL AR GYFER Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2018/19. pdf eicon PDF 166 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ddyddiadau arfaethedig tymhorau a gwyliau'r ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19. Dywedwyd bod rheidrwydd, o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i gydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau'r un fath, neu cyn agosed ag y bo modd, ar yr amod y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd ynghylch dyddiadau'r tymhorau os na ellid eu cysoni neu os oedd angen eu newid. Gan roi sylw i ofynion y Ddeddf, yr oedd y dyddiadau arfaethedig canlynol wedi'u paratoi ar gyfer dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgolion yn sgil eu trafod ac yn sgil ymgynghori'n gyffredinol â'r awdurdodau cyfagos:-

Tymor

Cychwyn

Dechrau Hanner Tymor

Diwedd Hanner Tymor

Diwedd Tymor

Hydref

Dydd Llun 3 Medi 18

Dydd Llun 29 Hyd 18

Dydd Gwener 2 Tach. 18

Dydd Gwener 21 Rhag. 18

Gwanwyn

Dydd Llun 7 Ion. 19

Dydd Llun 25 Chwef. 19

Dydd Gwener 1 Mawrth 19

Dydd Gwener 12 Ebrill 19

Haf

Dydd Llun 29 Ebr. 19

Dydd Llun 27 Mai 19

Dydd Gwener 31 Mai 19

Dydd Llun 22 Gorff. 19

 

Dydd Sul y Pasg - Dydd Sul 21 Ebrill 2019;Calan Mai - Dydd Llun 6 Mai 2018

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, pe byddid yn cymeradwyo'r dyddiadau, y byddent yn amodol ar y trefniadau cysoni a amlinellwyd uchod ac felly na ellid eu cadarnhau'n derfynol hyd nes y byddid wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, gymeradwyo Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau'r Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2018/19.</AI3>

 

4.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 13EG CHWEFROR, 2017 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13 Chwefror, 2017 yn gofnod cywir.