Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 13eg Chwefror, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR AWDURDOD LLEOL pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir.  Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol Gynradd

Penodiad(au)

Dewi Sant

(2 le gwag - 2 enwebiad)

Dr B. Clement

Mr G. Nicholas

 

Yr ysgol newydd yn lle Ysgol Fabanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech
(3 lle gwag - 3 enwebiad)

Y Cynghorydd Gwyn Hopkins

Y Cynghorydd Gwyneth Thomas

Mr T. Davies

 

Pontyberem

(2 le gwag - 1 enwebiad)

Mrs M. Thomas

 

3.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD OEDD WEDI'I GYNNAL AR 26AIN IONAWR 2017 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod ar y cyd oedd wedi'i gynnal ar 26 Ionawr 2017 yn gofnod cywir.