Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 15fed Tachwedd, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir.  Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol

Penodiad(au)

Meithrin Rhydaman

(1 Lle Gwag, 1 Enwebiad)

 

 

Mr A Cloke

Bryn Teg

(1 Lle Gwag, 2 Enwebiad)

 

 

Mr D. Sutherland

Ffederasiwn Cross Hands/Dre-fach

(1 Lle Gwag, 1 Enwebiad)

 

 

Ms K. Isaac

Y Model

(1 Lle Gwag, 1 Enwebiad)

 

 

Ms L. M. Lawrence

Myrddin

(1 Lle Gwag, 1 Enwebiad)

 

Mrs L. Skone [o 01/02/17]

 

Nantgaredig

(1 Lle Gwag, 1 Enwebiad)

 

Mr L. Thomas

 

Parc Waundew

(1 Lle Gwag, 2 Enwebiad - nodwyd fod enwebiad Mr D Simpson wedi'i dynnu'n ôl)

 

Y Cynghorydd Jeff Thomas

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN MEDI 2016 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29ain Medi, 2016, gan ei fod yn gywir. 

 

4.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNOD PENDERFYNIADAU CYD-GYFARFOD PENDERFYNIADAU AELODAU'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT AC ADNODDAU, A GYNHALIWYD AR Y 5ED O HYDREF 2016 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5ed Hydref, 2016 yn gofnod cywir.