Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.</AI1>
|
|
Cofnodion: Bu'r Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynnig i drosglwyddo tir y Cyngor Sir i berchenogaeth Esgobaeth Mynyw yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli.
Ym mis Ebrill 1989, cafodd hen adeilad Ysgol Sant Ioan Llwyd, a adeiladwyd ar dir Esgobaeth, ei ddymchwel yn dilyn tân a ddinistriodd yr adeilad ysgol yn llwyr. Er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl, gosodwyd ystafelloedd dosbarth symudol ar y safle fel cam dros dro tra bo adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar dir y Cyngor Sir.
Ym mis Awst 2016 cymeradwyodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £3.2 miliwn i adeiladu bloc gwyddoniaeth newydd, helaethu'r neuadd chwaraeon bresennol a gwneud gwaith adnewyddu mawr yn yr ystafelloedd dosbarth yn y prif adeilad. Fel rhan o amodau grant Llywodraeth Cymru (Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 Rhan 3 - Trosglwyddo Tir) mae'n rhaid i adeilad newydd gael ei adeiladu ar dir Esgobaeth.
Er mwyn mynd ati i adeiladu'r bloc gwyddoniaeth newydd a'r man chwarae amlddefnydd yn Ysgol Sant Ioan Llwyd, byddai angen i'r Awdurdod drefnu trosglwyddo tir y Cyngor Sir i berchenogaeth Esgobaeth Mynyw. Ni fyddai angen i'r Esgobaeth dalu am y tir a byddai'r Cyngor Sir a'r Esgobaeth yn talu am eu costau eu hun mewn perthynas â'r trafodiad.
Byddai'r cynllun arfaethedig yn Ysgol Sant Ioan Llwyd yn ymateb i'r galw o ran disgyblion yn y dyfodol ac yn yr hirdymor byddai maint yr ysgol yn addas i ddarparu ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer y disgyblion erbyn 2026, a thrwy hynny diogelu'r ddarpariaeth uwchradd seiliedig ar ffydd yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD
2.1 cymeradwyo trosglwyddo tir y Cyngor Sir i Etholaeth Mynyw er mwyn i waith adeiladu gael ei wneud yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
2.2 na fydd angen i'r Esgobaeth dalu am y tir ac y bydd y Cyngor Sir a'r Esgobaeth yn talu am eu costau eu hun mewn perthynas â'r trafodiad.
|