Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 14eg Mawrth, 2022 8.45 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25AIN IONAWR, 2022 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 yn gofnod cywir.

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

CynwylElfed - Llanpumsaint

(1 x lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. G. T. Page

Halfway

(2 x lle gwag – 2 enwebiad)

Mrs. T. Devichand

Mr. R. D. Rees

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Emlyn

(3 x lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs. C. Davies

QEHS

(1 x lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs. G. Parker