Lleoliad: Room 72A, County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION PENDERFYNIADAU 18FED MAWRTH, 2016 PDF 213 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18fed Mawrth, 2016 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR AWDURDOD LLEOL PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ddyddiadau arfaethedig tymhorau a gwyliau'r ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19. Dywedwyd bod rheidrwydd, o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i gydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau yr un fath, neu cyn agosed ag y bo modd, ar yr amod y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd ynghylch dyddiadau'r tymhorau os na ellid eu cysoni neu os oedd angen eu newid. Gan roi sylw i ofynion y Ddeddf, yr oedd y dyddiadau arfaethedig canlynol wedi'u paratoi ar gyfer dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgolion yn sgil eu trafod ac yn sgil ymgynghori'n gyffredinol â'r awdurdodau cyfagos:-
Dydd Sul y Pasg – Dydd Sul 21ain Ebrill 2019;Calan Mai – Dydd Llun, 6ed Mai 2019
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, pe byddid yn cymeradwyo'r dyddiadau, y byddent yn amodol ar y trefniadau cysoni a amlinellwyd uchod ac felly na ellid eu cadarnhau'n derfynol hyd nes y byddid wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar gael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, gymeradwyo Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau'r Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2018/19.
|