Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 18fed Mawrth, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Yr Ysgol

Y Penodiad[au]

 

Cwrt-henri

(1 lle gwag 1 enwebiad)

 

Mr A Jones

 

Gwenllian

(2 le gwag 2 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Ryan Thomas

Mr M Jones

 

Llangadog

(1 lle gwag 1 enwebiad)

 

Mrs M. Haines-Evans

 

Pont-iets

(1 lle gwag 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd T.J. Jones

 

Bryngwyn-Glanymôr

(1 lle gwag 1 enwebiad)

 

Mr M. Theodoulu

 

 

 

3.

DYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU YSGOL AR GYFER Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2017/18 pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ddyddiadau arfaethedig tymhorau a gwyliau'r ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18. Dywedwyd bod rheidrwydd, o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i gydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau yr un fath, neu cyn agosed ag y bo modd, ar yr amod y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd ynghylch dyddiadau'r tymhorau os na ellid eu cysoni neu os oedd angen eu newid. Gan roi sylw i ofynion y Ddeddf, yr oedd y dyddiadau arfaethedig canlynol wedi'u paratoi ar gyfer dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgolion yn sgil eu trafod ac yn sgil ymgynghori'n gyffredinol â'r awdurdodau cyfagos:-

Y Tymor

Yn Dechrau

Hanner Tymor yn dechrau

Diwedd Hanner Tymor

Diwedd y Tymor

Yr Hydref

Dydd Llun 4ydd Medi 17

Dydd Llun 30ain Hydref 17

Dydd Gwener 3ydd Tachwedd 17

Dydd Gwener 22ain Rhagfyr 17

Y Gwanwyn

Dydd Llun 8fed Ionawr 18

Dydd Llun 19eg Chwefror 18

Dydd Gwener 23ain Chwefror 18

Dydd Iau 29ain Mawrth 18

Yr Haf

Dydd Llun 16eg Ebrill 18

Dydd Llun 28ain Mai 18

Dydd Gwener 1af Mehefin 18

Dydd Mawrth 24ain Gorffennaf 18

 

 

Sul y Pasg - Dydd Sul 1af Ebrill 2018; G?yl Fai - Dydd Llun 7fed Mai 2018

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, pe byddid yn cymeradwyo'r dyddiadau, y byddent yn amodol ar y trefniadau cysoni a amlinellwyd uchod ac felly na ellid eu cadarnhau'n derfynol hyd nes y byddid wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, gymeradwyo Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau'r Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2107/18.

 

4.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 17EG CHWEFROR, 2016 pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 17eg Chwefror, 2016 yn gofnod cywir.