Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 17eg Chwefror, 2016 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol

Penodiad[au]

 

Ysgol newydd arfaethedig yn lle Ysgol Babanod Copperworks ac Ysgol Gynradd Maesllyn

 (3 lle gwag, 4 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Winston Lemon

Y Cynghorydd Jeff Owen

Y Cynghorydd Louvain Roberts

 

Y Betws

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Ryan Bartlett

 

Brynsierfel

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Sharen Davies

 

Hafodwenog

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Mr. Alun Williams

 

Maes-y-bont

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Cefin Campbell

 

Parc y Tywyn

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd John. James

 

Peniel

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Mrs. Lisa Fearn

 

Y Santes Fair, Llanelli

(1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Mrs. Kimberly Phillips

 

Teilo Sant

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Cefin Campbell

 

T?-croes

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Calum Higgins

 

Y Bedol

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Colin Evans

 

Coedcae

(2 lle gwag, 2 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Louvain Roberts

Y Cynghorydd Jan Williams

 

Ffederasiwn Bryngwyn a Glanymôr

( NODER: Cafodd llenwi'r lle gwag hwn ei dynnu oddi ar yr agenda)

 

 

Dyffryn Aman

 (1 lle gwag, 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Ryan Bartlett.

 

 

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 21AIN IONAWR, 2016. pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Ionawr 2016, gan ei fod yn gywir.