Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
AELODAETH FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG PDF 164 KB Cofnodion: Penderfynwyd gwneud y penodiadau canlynol i'r Fforwm Derbyniadau Addysg, am gyfnod cychwynnol o 4 blynedd, yn unol â'r cyfansoddiad a bennwyd gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 17 Medi, 2012:
Ysgolion Catholig Rhufeinig: Mr Ashley Howells, cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol ar gyfer Mynyw; Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru: Y Canon Brian Witt, Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Rhiant-lywodraethwyr [2]: Ms Jenifer Gilmore a Ms Lindi Lloyd Cynrychiolwyr Cymunedol Lleol [2]: Y Cynghorydd Tref Philip Warlow a'r Cynghorydd Cymuned Julian Evans; Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol [4]: Ms Helen-Wyn Davies, Ms Karen Towns, Mr Paul Jones a Mr Ashley Howells.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd nodwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn cael ei gynnwys yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION - 26AIN MEDI, 2017 PDF 103 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017, gan ei fod yn gywir.
|