Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 RHAGFYR, 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 19 Rhagfyr, 2016 yn gofnod cywir.
|
|
RHAGLEN CEFNOGI DIGWYDDIADAU 2017-2018 Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cyllid o £20,000.00 i lansio Cynllun Cyllido Cefnogi Digwyddiadau gyda'r nod o ddarparu cymorth ariannol i ddigwyddiadau yn y sir a allai ddangos eu bod yn bodloni meini prawf penodol, yn bennaf amcanion strategol twristiaeth, cymunedau a'r economi. Rhagwelwyd y byddai cryn dipyn o alw am yr hyn a fyddai'n gronfa weddol fach felly byddai cymorth yn cael ei roi i'r digwyddiadau hynny yn unig a oedd yn gallu dangos tystiolaeth glir o allbynnau economaidd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyllid o £20,000.00 ar gyfer lansio Cynllun Cyllido Cronfa Digwyddiadau.
|
|
NID YW'R ADRODDIAD HWN I'W GYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - LEWIS RETAIL DREFACH Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd. Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Lewis Retail Drefach Ltd am gymorth gan Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin tuag at y gost o ddymchwel Garej Woodlands, Drefach ac adeiladu safle adwerthu, storfa a swyddfa. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad Lewis Retail Drefach Ltd./Garej Woodlands gynt £128,000.00
|