Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 7 Hydref, 2016 yn gofnod cywir.
|
|||||
CRONFA DATBLYGU ADFYWIO RHYDAMAN. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch meini prawf a'r gweithdrefnau ar gyfer Cronfa Datblygu Adfywio Rhydaman. Nodau ac amcanion y Gronfa oedd galluogi a chymell gwaith adnewyddu tai a phrosiectau adeiladau newydd yn Rhydaman. Byddai'r cynllun yn cynorthwyo i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn safleoedd ac eiddo heb eu meddiannu drwy ddefnydd uniongyrchol gan Gyngor Sir Caerfyrddin a/neu'r sector preifat.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r meini prawf cymhwyso a'r gweithdrefnau arfaethedig er mwyn sefydlu Cronfa Datblygu Adfywio Rhydaman. |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD 4.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Ymgeisydd Dyfarniad
Capel Ebeneser y Bedyddwyr Cymraeg £3,000.00 Neuadd y Farchnad – Llanboidy £3,000.00 4.2 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Ymgeisydd Dyfarniad Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Llanelli £12,000.00 Canolfan Gymunedol Ystradowen £12,654.00
|
|||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.</AI5>
|
|||||
CRONFA MENTER GLWEDIG SIR GAERFYRDDIN. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif2 uchod, na fyddai yn cynnwys yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd. Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Sauro Architect Design am gymorth gan Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin tuag at y costau o adnewyddu 9 Teras Elliston, Caerfyrddin er mwyn ei ddefnyddio unwaith eto. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad Sauro Architects Designs /9 Teras Elliston, Caerfyrddin £60,000.00
|