Lleoliad: The Chairman's Room, Town Hall, Llanelli
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 16EG MEDI, 2015. Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16eg Medi, 2015, gan ei fod yn gywir.
|
|
Cymorth ariannol o'r gronfa grant ganlynol: Cronfa Cyllid a Dargedir a Grant Cronfa'r Degwm Cofnodion: PENDERFYNWYD 3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd Y Dyfarniad Eglwys Gymunedol Tywi £10,000.00 Ail Gyfle [Second Chance] £20,000.00 Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin (CYCA) £18,740.00 Hosbis Skandavale £20,000.00 3.2 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd Y Dyfarniad Sefydliad Neuadd Bentref Llanddarog £3,000.00 Eglwys Sant Ioan, Pontyberem £3,000.00 Clwb Rygbi Crwydriaid Llanelli £10,000.00 3.3 cofnodi gwerthfawrogiad yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan sefydliadau ffydd a gwirfoddol a gofyn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ystyried trefnu digwyddiad addas i gydnabod eu cyfraniad.
|