Lleoliad: Swyddfa Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2016/17. PDF 184 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch tâl safonol yr awdurdod lleol am ofal preswyl yn ystod 2016/17.
Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod yn rhaid i oedolion oedd yn derbyn llety preswyl gyfrannu at gost eu gofal. Os oes ganddynt adnoddau digonol, mae'n ofynnol iddynt dalu'r gost lawn am eu llety, sef y Tâl Safonol a gyfrifir yn flynyddol ar sail y gost lawn i'r Awdurdod o ddarparu'r llety. Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai cyfran fach yn unig o'r preswylwyr fyddai'n gorfod talu costau llawn eu gofal.
Eglurwyd mai'r ffactorau allweddol o ran pennu'r tâl safonol blynyddol oedd cyfanswm cost y gyllideb ar gyfer cynnal cartrefi preswyl yr Awdurdod, ynghyd â nifer y gwelyau oedd ar gael a faint ohonynt oedd yn llawn. Ni fu newidiadau yn y nifer o welyau a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2016/17. Er bod y costau staffio wedi cynyddu roedd y rhain wedi cael eu gwrthbwyso yn rhannol gan ostyngiad yn y treuliau gweithredu. O ganlyniad, bydd y tâl ar gyfer gwelyau prif ffrwd yn cynyddu gan 0.36% a gwelyau ar gyfer henoed bregus eu meddwl yn cynyddu gan 2.95%.
PENDERFYNWYD: 2.1 bod y tâl safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei godi o £583.88 i £585.99 am welyau prif ffrwd ac o £768.78 i £791.48 am welyau i henoed bregus eu meddwl; 2.2 y byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 2 Ionawr, 2017 yn achos y preswylwyr hynny yr oedd yr Awdurdod wedi eu rhoi yn ein Cartrefi Awdurdod Lleol ein hunain. O ran y preswylwyr hynny oedd wedi cael eu rhoi yn ein cartrefi gan Awdurdodau Lleol eraill,byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 11 Ebrill, 2016.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 9FED MEHEFIN, 2016. PDF 98 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2016 gan eu bod yn gywir. |