Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 14EG MAI, 2019 PDF 299 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Mai, 2019 yn gofnod cywir.
|
|
TALIADAU DIBRESWYL 2019-2022 PDF 278 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau Llywodraeth Cymru i'r "Cap" ar daliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.
Er mwyn adennill costau'n llawn ar gyfer 2020-21, ac i gysoni cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, cynigiwyd cynyddu taliadau Dibreswyl am wasanaethau a godir fesul awr o £14.00 i £16.50 (17.85%) a thaliadau Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £13.50 i £16.15 (17.85%).
Nodwyd y byddai'r incwm ychwanegol ar gyfer 2020-2021 yn oddeutu £34K petai'r taliadau am wasanaethau yn cael eu pennu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl ar gyfer gwasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £14.00 i £16.50 (17.85%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £13.50 i £16.15 (17.85%).
|