Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 MAWRTH 2018 PDF 104 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018 gan ei fod yn gywir.
|
|
TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2018-19 PDF 160 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch tâl safonol yr awdurdod lleol am ofal preswyl yn ystod 2018/19. Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod yn rhaid i’r oedolion oedd yn derbyn llety preswyl gyfrannu at gost eu gofal. Os oedd ganddynt adnoddau digonol, roedd yn ofynnol iddynt dalu'r gost lawn am eu llety, sef y Tâl Safonol a gyfrifwyd yn flynyddol ar sail y gost lawn i'r Awdurdod o ddarparu'r llety. Eglurwyd mai'r ffactorau allweddol o ran pennu'r tâl safonol blynyddol oedd cyfanswm cost y gyllideb ar gyfer cynnal cartrefi preswyl yr Awdurdod, ynghyd â nifer y gwelyau oedd ar gael a faint ohonynt oedd yn llawn. Ni fu newidiadau o ran nifer y gwelyau a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2018/19. Er bod y costau staffio wedi cynyddu roedd y rhain wedi cael eu gwrthbwyso yn rhannol gan ostyngiad yn y treuliau gweithredu. O ganlyniad, bydd y tâl ar gyfer gwelyau prif ffrwd yn cynyddu gan 0.17% a gwelyau ar gyfer henoed bregus eu meddwl yn cynyddu gan 1.11%.
PENDERFYNWYD: 3.1 bod y tâl safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei godi o £585.99 i £587.02 am welyau prif ffrwd ac o £791.48 i £800.30 am welyau i henoed bregus eu meddwl; 3.2 y byddai'r cyfraddau newydd yn dod i rym ar 2 Gorffennaf 2018 yn achos y preswylwyr hynny yr oedd yr Awdurdod wedi eu rhoi yn ein Cartrefi Awdurdod Lleol ein hunain. O ran y preswylwyr hynny oedd wedi cael eu rhoi yn ein cartrefi gan Awdurdodau Lleol eraill, roedd y cyfraddau newydd yn dod i rym ar 9 Ebrill 2018.
|