Lleoliad: Swyddfa'r ABG GC&I - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 26 EBRILL, 2018 PDF 79 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 26 Ebrill, 2018 yn gofnod cywir.
|
|
RHYDDHAU ARIAN Y DEFNYDDWYR GWASANAETH HEB YR ANGEN AM GRANT PROFIANT PDF 190 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn manylu ar y cynnig i gynyddu'r terfyn ar gyfer rhyddhau symiau o arian i aelodau o'r teulu heb yr angen am Grant Profiant, o £5,000 i £20,000.
Pwysleisiodd y Rheolwr Cymorth Busnes fod y trothwy yn y statud wedi'i gynyddu ddiwethaf yn 1984 (gan Orchymyn Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) (Cynyddu Terfyn) 1984), ac y byddai cynnydd bellach yn adlewyrchu chwyddiant a lefelau presennol a bennir gan sefydliadau ariannol.
Dywedwyd er y byddai'r symiau a ddelir yn llai na'r trothwy cyfredol o £5000 heb unrhyw broblemau yn y rhan fwyaf o achosion, dros y blynyddoedd diwethaf nodwyd bod cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion lle delir symiau mwy o arian gan yr Awdurdod. Roedd y cynnydd hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr Uned Cymorth Busnes gan deuluoedd a oedd yn ceisio rhyddhau'r arian heb yr angen am brofiant.
Eglurodd y Rheolwr Cymorth Busnes ei bod yn angenrheidiol, oherwydd y risg ariannol i'r Awdurdod o ran dosbarthu arian dros y terfyn taliadau bach, sef £5000, heb i'r teulu gael profiant yn gyntaf, sicrhau bod llofnodion yr aelodau dan sylw o'r teulu ar ffurflen indemniad. Roedd y broses hon yn lleihau'r risg ariannol i'r Awdurdod, yn enwedig petai aelod o'r teulu â mwy o hawl yn dod i'r amlwg yn ddiweddarach. Cydnabuwyd hefyd petai'r trothwy yn cael ei gynyddu mewn amgylchiadau o'r fath, y byddai'r risg hefyd yn cynyddu.
Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y ffurflen indemniad a oedd wedi'i hatodi i'r adroddiad. Eglurodd y Rheolwr Cymorth Busnes fod y ffurflen wedi cael ei hadolygu a'i hailddrafftio gan adain y gwasanaethau cyfreithiol er mwyn diogelu sefyllfa'r Awdurdod a'r bwriad oedd defnyddio'r ffurflen hon wrth ddosbarthu arian dros y trothwy statudol o £5000, a fyddai'n cryfhau sefyllfa'r Awdurdod petai hawliad o'r fath yn cael ei wneud.
PENDERFYNWYD:
3.1 cymeradwyo'r cynnig i gynyddu'r terfyn ar gyfer rhyddhau symiau o arian i aelodau o'r teulu heb yr angen am Grant Profiant, o £5,000 i £20,000;
3.2 cymeradwyo a mabwysiadu'r fersiwn diwygiedig o'r ffurflen indemniad.
|