Lleoliad: Director's Office, County Hall, Carmarthen
Rhif | eitem |
---|---|
DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod. |
|
SHOPMOBILITY LLANELLI. Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor Sir wedi bod yn cefnogi cynllun Shopmobility Llanelli ers 2011 gan wneud hynny ar ffurf trefniant cyllido tair blynedd gyda Chytundeb Lefel Gwasanaeth. Yr oedd y trefniant cyllido presennol i fod i ddod i ben eleni.
Dywedwyd bod cynllun Llanelli yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl anabl ac yr oedd yn gynllun llwyddiannus oedd â 232 o aelodau. Yr oedd y gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy godi arian. Fodd bynnag yr oedd y cynllun yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol y Cyngor Sir, ac yr oedd y Gr?p wedi gofyn am ragor o gymorth ariannol, sef £6,500, gan y Cyngor am y flwyddyn bresennol.
Eglurwyd bod Shopmobility yn un o'r mentrau niferus oedd yn cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi'r dref ac yr oedd yn un o'r prif flaenoriaethau yn Strategaeth Barcio Integredig yr Awdurdod h.y. “Darparu rhagor o gyfleusterau i'r rhai sy'n cael anhawster symud – gan gynnwys lefelau priodol o leoedd mewn meysydd parcio ac annog cynlluniau Shopmobility yng nghanol trefi”.
Nid oedd gan y Cyngor ddyraniad refeniw i gyllido rhagor o gymorth eleni; fodd bynnag byddai'n cael £32,313 ar ffurf Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau i gyllido datblygu trafnidiaeth gymunedol, ac yr oedd y cyfryw gynlluniau'n cynnwys Shopmobility.
PENDERFYNWYD estyn cymorth i Shopmobility Llanelli ar ffurf grant pellach o £6,500 o'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau am y flwyddyn ariannol bresennol, a byddid yn llunio Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig. |
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN. Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor Sir wedi bod yn cefnogi cynllun Shopmobility Caerfyrddin ers 2011 gan wneud hynny ar ffurf trefniant cyllido tair blynedd gyda Chytundeb Lefel Gwasanaeth. Yr oedd y trefniant cyllido presennol i fod i ddod i ben eleni.
Dywedwyd bod cynllun Caerfyrddin yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl anabl ac yr oedd yn gynllun llwyddiannus oedd â 1,021 o aelodau. Yr oedd y Gr?p yn cael incwm drwy godi tâl a thrwy godi arian. Fodd bynnag yr oedd y cynllun yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol y Cyngor Sir, ac yr oedd y Gr?p wedi gofyn am ragor o gymorth ariannol gan y Cyngor Sir am y 12 mis nesaf, yn seiliedig ar y cymorth oedd wedi ei ddarparu ar gyfer blwyddyn olaf y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, h.y. £13,596.
Eglurwyd bod Shopmobility yn un o'r mentrau niferus oedd yn cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi'r dref ac yr oedd yn un o'r prif flaenoriaethau yn Strategaeth Barcio Integredig yr Awdurdod h.y. “Darparu rhagor o gyfleusterau i'r rhai sy'n cael anhawster symud – gan gynnwys lefelau priodol o leoedd mewn meysydd parcio ac annog cynlluniau Shopmobility yng nghanol trefi”.
Nid oedd gan y Cyngor ddyraniad refeniw i gyllido rhagor o gymorth am 12 mis. Fodd bynnag byddai'n cael £32,313 ar ffurf Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau i gyllido datblygu trafnidiaeth gymunedol, ac yr oedd y cyfryw gynlluniau'n cynnwys Shopmobility.
PENDERFYNWYD estyn cymorth i Shopmobility Caerfyrddin ar ffurf grant pellach o £13,596 am 12 mis arall gan gychwyn ym mis Medi 2015.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 15fed Mehefin, 2015, gan ei fod yn gywir.
|