Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU 6ED MEDI 2019 PDF 311 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2019, gan ei fod yn gywir.
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CANOL TREF LLANELLI - ADOLYGIAD O INCWM A HYRWYDDO DEILIADAETH CANOL Y DREF Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth sensitif am yr unigolion yn cael ei datgelu'n anghymesur i'r cyhoedd. Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y cynigion ar gyfer telerau prydlesu diwygiedig i denantiaid eiddo penodol sy'n eiddo i'r Cyngor yng nghanol tref Llanelli er mwyn sicrhau hyfywedd a pharhad masnachu yn yr eiddo hynny. Nodwyd y byddai parhad y tenantiaid allweddol yng nghanol y dref yn helpu i leihau rhwymedigaethau posibl o eiddo gwag. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r telerau prydlesu diwygiedig arfaethedig a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y busnesau dan sylw. |