Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIAD 7 TACHWEDD 2019 PDF 287 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI FOLLOWING CONSIDERATION OF ALL THE CIRCUMSTANCES OF THE CASE AND FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE EXECUTIVE BOARD MEMBER MAY CONSIDER THAT THE FOLLOWING ITEM IS NOT FOR PUBLICATION AS IT CONTAINS EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007 Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.
Nodwyd bod rheoliadau wedi'u cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.
PENDERFYNWYD i ganiatáu cyfeirnod Cais 60241291-4 am ryddhad ac i beidio â rhoi rhyddhad ar gyfer Cais cyf 20031669
|
|
DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID Cofnodion: Gohiriwyd y cyfarfod am 10:19 ac ailymgynnull am 14:30
YN BRESENNOL: Y Cynghorydd D.M. Jenkins (Aelod o'r Bwrdd Gweithredol)
Hefyd yn bresennol - Y Cynghorydd L. Evans (Aelod o'r Bwrdd Gweithredol)
Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol: A. Williams, Arweinydd Cymorth Tenantiaeth R. Heaney, Swyddog Tai L. Jenkins, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd wedi'i lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid. Rhoddodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol o ran dyledion cyn-denantiaid Stoc y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn achosion hirdymor a bod ymdrechion wedi eu gwneud i olrhain y cyn-denant ac adennill y swm dyledus, ond bu'r ddau yn aflwyddiannus.
Nodwyd cais gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i gael gwybodaeth fanylach am gefndir yr achosion yn £2500
PENDERFYNWYD :
5:1 dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill
5: 2 y dylai pob adroddiad yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth fanwl am achosion gyda chyfanswm y ddyled yn gyfanswm o £ 2500 ac uwch. |