Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2017/18 PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18.
Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Eglurwyd bod yr holl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â rhenti tai cymdeithasol. Er nad oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu'r un faint â thenantiaid y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2017/18 byddai hyn yn gynnydd o 2.5% (CPI + 1.5%). O ganlyniad, argymhellir taw £51.65 fyddai'r rhenti wythnosol am 2017/18 ar gyfer safle Pen-y-bryn (taliadau net am wasanaethau a threthi d?r). Byddai'r rhent hwn yn rhoi incwm blynyddol o £37,188 am 2017/18, petai pob llain yn cael ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
2.1 pennu taw £51.65 fyddai'r rhent am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn am 2017/18;
2.2 bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hyn;
2.3 pennu taw £11.53 yw'r tâl am ddefnyddio d?r;
2.4 awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r tâl cyffredinol a nodir yn nhabl 1.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 1 MEDI 2016 PDF 72 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2016 gan ei fod yn gywir. |