Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 11eg Ionawr, 2017 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2017/18 pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Eglurwyd bod yr holl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â rhenti tai cymdeithasol. Er nad oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu'r un faint â thenantiaid y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2017/18 byddai hyn yn gynnydd o 2.5% (CPI + 1.5%). O ganlyniad, argymhellir taw £51.65 fyddai'r rhenti wythnosol am 2017/18 ar gyfer safle Pen-y-bryn (taliadau net am wasanaethau a threthi d?r). Byddai'r rhent hwn yn rhoi incwm blynyddol o £37,188 am 2017/18, petai pob llain yn cael ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

2.1       pennu taw £51.65 fyddai'r rhent am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn am 2017/18;

 

2.2       bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hyn;

 

2.3       pennu taw £11.53 yw'r tâl am ddefnyddio d?r;

 

2.4       awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r tâl cyffredinol a nodir yn nhabl 1.

 

3.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 1 MEDI 2016 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2016 gan ei fod yn gywir.