Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11eg Ebrill, 2016 yn gofnod cywir.
|
|
CYTUNDEB PRYDLES I'R CANOLFANNAU TEULU. PDF 452 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ynghylch cytundebau prydles a gynigiwyd ar gyfer Canolfannau Teulu.
Mae gan yr Awdurdod bum Canolfan Deulu sy'n defnyddio eiddo'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r Canolfannau Teulu hyn yn y Betws, y Garnant, De Cefncaeau a dwy yng Nghaerfyrddin ac fe'u sefydlwyd ar y dechrau gan ddefnyddio arian y fenter Cychwyn Cadarn. Nod y Canolfannau Teulu yw rhoi cymorth i deuluoedd. Mae'r rhieni'n cael cynnig cyrsiau amrywiol gan gynnwys iaith a chwarae, bwyta'n iach, cyrsiau cyfrifiadurol a chyrsiau rhianta. Mae'r teuluoedd yn cael amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau, diwrnodau hwyl i'r teulu, chwarae yn yr awyr agored a chlybiau cinio. Mae'r Canolfannau Teulu'n cynnig man diogel, lle mae anghenion unigol plant, rhieni a gofalwyr yn cael parch a chymorth.
Mae'r canolfannau'n dibynnu'n helaeth ar gyllid a heb brydles ni fyddent yn gallu hawlio'r cyllid sy'n cael ei ddyfarnu iddynt neu wneud cais am gyllid yn y dyfodol. Er mwyn parhau i weithredu fel Canolfannau Teulu, roedd yn hanfodol sicrhau bod cytundeb prydles ffurfiol ar waith.
Roedd prydles enghreifftiol wedi cael ei llunio sy'n nodi telerau'r cytundeb. Yn sgil hynny gallai'r Canolfannau Teulu wneud cais am gyllid allanol neu, os oedd trefniadau presennol ar waith, gallent hawlio'r arian a ddyfarnwyd.
PENDERFYNWYD fod y pum canolfan deulu a nodir yn yr adroddiad yn parhau i ddefnyddio'r eiddo ym mhortffolio'r Cyfrif Refeniw Tai, yn unol â'r telerau a'r amodau a nodir yn y cytundeb prydles.
|