Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 12 TACHWEDD 2021 PDF 273 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir.
|
|||||||||
PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2022/23 PDF 569 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23. Hysbyswyd yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, byddai hynny'n gynnydd o 2.9% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2022/23 ar £58.72 (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £42,278.40 ar gyfer 2022/23, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
|