Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 18fed Mawrth, 2021 9.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23AIN GORFFENNAF, 2020 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 351 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2020 yn gofnod cywir.

 

 

3.

PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2021/22 pdf eicon PDF 475 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod yr holl Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r polisi rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â lefelau rhenti tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y rhenti'n cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bernid ei bod yn deg ac yn gyfiawn bod y rhenti'n cynyddu drwy ddefnyddio'r un fformiwla â thenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, byddai hynny'n gynnydd o 1.5% (cyfradd CPI ym mis Medi 2020) ac argymhellwyd y dylid pennu'r lefelau rhenti wythnosol ar gyfer 2021/22 ar £57.06 (taliadau net am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £41,083.20 ar gyfer 2021/22, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gwestiynau'r elfen tâl am wasanaethau yn yr adroddiad a rhoddwyd eglurhad gan y swyddog ei bod yn cael ei chymhwyso ar yr un sail â chanolfannau tai gwarchod y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

3.1

pennu mai £57.06 fyddai'r rhent wythnosol am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn, wedi'i gasglu dros 48 wythnos.

3.2

bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn gyda thâl am y gwasanaethau ychwanegol hynny.

3.3

pennu mai £21.15 yw'r tâl am ddefnyddio d?r, wedi'i gasglu dros 48 wythnos.

3.4

awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r taliadau cyffredinol a nodir yn nhabl 1.