Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 14EG MAI 2021 PDF 270 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 14 Mai, 2021 yn gofnod cywir.
|
|
CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER GOLWG Y CAPEL, DATBLYGIAD NEWYDD POBL YN NHY-CROES PDF 487 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Aelod o'r Cabinet dros Dai adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad tai newydd Pobl yng Ngolwg y Capel, Tycroes. Byddai'r Polisi hwn sicrhau bod cymuned gynaliadwy yn cael ei chreu lle byddai pobl yn falch o fyw. Byddai'r Polisi hwn yn berthnasol i ddechrau wrth osod y cartrefi newydd i'w rhentu yn Nh?-croes ac yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl y gosod diwethaf.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd yng Ngolwg y Capel, datblygiad tai newydd Pobl yn Nh?-croes yn amodol ar drosglwyddiadau ar gyfer pob math o d? gan gynnwys aelwydydd y mae eu tai cymdeithasol presennol yn orlawn a’r rhai sy’n tanfeddiannu eu tai cymdeithasol presennol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Aelod o'r Cabinet dros Dai adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad tai newydd gan Gr?p Tai Pobl yn Cross Hands - Maes y Gwenyn. Byddai'r Polisi hwn yn sicrhau bod cymuned gynaliadwy yn cael ei chreu lle byddai pobl yn falch o fyw. Byddai'r Polisi hwn yn berthnasol i ddechrau wrth osod y cartrefi newydd i'w rhentu yn Nh?-croes ac yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl y gosod diwethaf.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet mai Llannon oedd y ward leol ar gyfer y datblygiad hwn mewn gwirionedd, nid Gorslas fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac yr ymgynghorwyd ag aelodau ward Llannon, y Cynghorwyr Emlyn Dole a Dot Jones. Roedd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen a'r Cynghorydd Darren Price, aelodau o ward Gorslas, wedi cael gwybod am y gwall.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd ym Maes y Gwenyn, datblygiad tai newydd Pobl yn Cross Hands yn amodol ar drosglwyddiadau ar gyfer pob math o d? gan gynnwys aelwydydd y mae eu tai cymdeithasol presennol yn orlawn a’r rhai sy’n tanfeddiannu eu tai cymdeithasol presennol.
|