Lleoliad: Ystafell 65 - Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
AMLINELLU CYNLLUN AR GYFER ADOLYGU EFFEITHIOLRWYDD CYNLLUNIAU GOSOD LLEOL PDF 276 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu cynllun i adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Gosod Lleol ac a oedd yn cynnwys rhestr o'r polisïau gosod lleol sydd ar waith ar hyn o bryd, y prif reswm dros eu cyflwyno ac amserlen arfaethedig ar gyfer eu hadolygu.
Esboniodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, yn sgil y canllawiau a luniwyd yn 2016 fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru), ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu eu polisïau gosod lleol yn rheolaidd er mwyn sicrhau y bodlonir gofynion y canllawiau.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yn rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod ganddynt dystiolaeth glir o'r angen cyn cyflwyno polisïau gosod lleol.
Yn ogystal, mae'r polisi ynghylch ward Ty-isa yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ar y sail ei fod wedi bodoli hiraf a'i fod yn cynnwys y nifer mwyaf o eiddo. Byddai'r gwaith yn darparu gwybodaeth ar gyfer ceisiadau a dderbynnir gan aelodau lleol i bolisïau gosod lleol gael eu hystyried mewn perthynas â wardiau Glanymôr a Llwnhendy.
Nododd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai tystiolaeth ynghylch y meini prawf penodedig yn seiliedig ar ddata o'r ystod eang o ffynonellau sydd ar gael ac y byddai adroddiadau ar yr adolygiadau yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd yr Aelod priodol o'r Bwrdd Gweithredol.
Argymhellwyd bod y polisïau gosod lleol presennol yn cael eu hadolygu yn unol â'r rhaglen a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
2.1 Derbyn yr adroddiad a oedd yn amlinellu cynllun ar gyfer adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Gosod Lleol;
2.2 Cymeradwyo'r rhaglen adolygu mewn perthynas â Pholisïau Gosod Lleol presennol, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2017 yn gofnod cywir.
|