Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.T. Evans, B.A.L. Roberts a J.Williams.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith na fyddai’r Cynghorwyr T.T. Defis, D.J.R. Llewellyn, J. Williams a J.S. Williams yn dychwelyd ar ôl yr etholiad. Diolchodd iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
ADRAN CYMUNEDAU: GYNLLUN BUSNES YR ADRAN AM 2017-2020 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: NODER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd blaenoriaethau’r adran o ran yr elfennau gofal cymdeithasol ac iechyd sy’n rhan o Gynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2017-20
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at yr anawsterau a oedd yn wynebu staff wrth i’r gyllideb barhau i ostwng ac wrth i’r galw barhau i gynyddu, mynegwyd diolch a llongyfarchiadau i’r swyddogion am yr holl waith yr oeddent yn ei wneud i bobl Sir Gaerfyrddin; · Gofynnwyd beth oedd yr heriau mwyaf a oedd yn wynebu’r adran o ran gofal cymdeithasol ac iechyd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd mai un o’r heriau oedd y galw a’r newidiadau yn y galw hwnnw, fodd bynnag, un o’r heriau mwyaf yw’r gweithlu. Cyfeiriodd at y ffaith fod 900 o ofalwyr â thâl yn gadael y sector gofal bob dydd, ac felly roedd yn hanfodol sicrhau bod ganddynt weithlu profiadol sydd wedi’i hyfforddi ac yn barod ar gyfer y gwaith. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o sicrhau bod gofal yn cael ei ystyried yn broffesiwn gwerthfawr a gwerth chweil; · Cyfeiriwyd at nifer y gwobrau yr oedd staff gofal cymdeithasol yr Awdurdod wedi’u hennill yn ystod Gwobrau Cymru Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain ym mis Hydref, a rhoddwyd llongyfarchiadau i’r staff am eu llwyddiannau a diolchwyd iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2017-20 yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU PDF 53 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a fanylai ar y rhesymau dros beidio â chyflwyno dau adroddiad i'r pwyllgor craffu:-
- Cynllun Gweithredu Lleol mewn ymateb i Adroddiad Jasmine (gan gynnwys Gweithdrefnau Pryderon Cynyddol Llywodraeth Cymru) - Yr Iaith Gymraeg mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl h?n
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.
|
|||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD 6ED MAWRTH 2017 PDF 212 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2017, gan eu bod yn gywir.
|