Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer. 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies, B. A. L. Roberts, G. Jones a J. Tremlett (yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn unol â Rheol 2(3) o Weithdrefn y Cyngor, ei bod yn mynd i newid trefn y materion ar yr agenda.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20FED MAI, 2019 PDF 239 KB Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 20 Mai, 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 30 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:
· Adroddiad Blynyddol ar G?ynion a Chanmoliaeth 2018-19
Penderfynwyd nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AR GYFER 2019/20 PDF 371 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2019/20 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn, gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2019/20.
|
|
ADRODDIAD GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2018/19 PDF 418 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diwygiedig y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yr oedd wedi'i sefydlu ar 21 Mai 2018, er mwyn adolygu effaith unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin. Lluniwyd yr argymhellion sydd yn yr adroddiad gan y Gr?p ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd rhwng Mehefin 2018 ac Ebrill 2019.
Diolchodd y Cadeirydd a'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen i Julia Wilkinson am yr holl waith ac arweiniad a roddwyd wrth lunio'r adroddiad. Diolch hefyd i Sue Smith a'r sefydliadau amrywiol yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod y cyfnod ymchwilio.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’i gyflwyno at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Fel y sefydliad statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Mae'r Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau statudol ac anstatudol eraill. Yr Awdurdod hefyd oedd y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Nodai'r adroddiad fanylion ynghylch rhai o'r gwelliannau allweddol a wnaed i'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a'r newidiadau a'r heriau sydd i ddod.
Roedd yr Adroddiad yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn crynhoi cyd-destun polisi cenedlaethol Diogelu Oedolion ar y pryd, gan gynnwys goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-
· Y sefyllfa strategol ranbarthol a chenedlaethol · Y trefniadau gweithredol · Llwyddiannau allweddol a digwyddiadau arwyddocaol · Newidiadau allweddol mewn prosesau · Sicrhau ansawdd · Gweithio mewn partneriaeth · Gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Y prif faterion oedd:
Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu fod y 3 swyddog y cyfeirir atynt wedi'u neilltuo ar gyfer atgyfeiriadau Diogelu. Roedd 32 o weithwyr cymdeithasol wedi'u hyfforddi i gynnal asesiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gyda 2 asesydd penodedig amser llawn. Bu oedi o ran penodi swydd Rheolwr y Tîm Gweithredol oherwydd arolygiad diweddar ond bellach mae'r broses benodi ar waith.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn cysylltu'n ddyddiol â'r heddlu a bod ganddo berthynas waith agos â gr?p gweithredol Diogelu lleol Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yna brotocol y cytunwyd arno ar gyfer rhoi gwybod am bryderon a rhannu gwybodaeth a bod yr heddlu yn flaenweithgar iawn.
Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod gan yr Awdurdod gleifion y tu allan i'r sir, fodd bynnag, roedd prosesau cadarn ar waith i fonitro hyn. Os byddai unrhyw bryderon, byddai'r Awdurdod yn gweithio gyda'r cartref i wella'r sefyllfa, ond os nad oedd gwelliannau ac os nad oedd yr Awdurdod yn hyderus y byddai'r person yn gallu cael ei ddiogelu, byddai'n chwilio am leoliad arall. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd unrhyw berson wedi'i leoli gyda'r sefydliad a nodir yn y rhaglen Panorama. Dywedwyd mai'r bwriad oedd dod â phobl yn ôl i'r sir ar gyfer gofal ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd hynny oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol. Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, camau gweithredu, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.
Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2018/19, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20. Roedd yn cyd-fynd yn agos â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.
Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad. Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig. Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu. Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bod yr adroddiad yn un cadarnhaol iawn ar y cyfan, fodd bynnag, ni fyddai'r swyddogion yn gallu parhau i ysgogi arbedion effeithlonrwydd, ac roedd edrych ar sut y mae'r galw yn cael ei ariannu yn hanfodol.
Mynegwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol iddynt. Y prif faterion oedd:-
· Gofynnwyd pam roedd ffigurau 'Plant mewn Gofal' wedi lleihau. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y ffigurau'n isel o'u cymharu â gweddill Cymru, ond nid o gymharu â gweddill y DU. Roedd cyfradd y rhai sy'n dychwelyd i'r cartref wedi dyblu oherwydd system gofal cymdeithasol well sy'n mynd ati i ddychwelyd plant i'w cartref. Dylid ond gofalu am blant yn y system gofal cyhoeddus pan nad oes unrhyw ddewis arall ar gael.
· Nodai'r adroddiad mai "un flaenoriaeth fydd gwneud y gwasanaeth mewnol yn fwy effeithlon wrth i'w gyfran o'r farchnad gofal cartref gyfan dyfu". Gofynnwyd sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni. Dywedwyd fod ystod o gynlluniau ar waith er mwyn gwneud gofal cartref yn fwy effeithlon. Byddai defnyddio technoleg yn cynorthwyo o ran defnyddio'r gweithlu mewn modd mwy effeithlon a gellid gwella'r gwaith o gomisiynu gofal. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod ysgogi effeithlonrwydd wedi dod i ben ac efallai bydd angen i'r Awdurdod, er ei fod mewn gwell sefyllfa na'r rhan fwyaf o Awdurdodau eraill, ddechrau gwneud penderfyniadau anodd yn ymwneud â thoriadau i'r gwasanaeth.
· Gofynnwyd pa gamau oedd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 PDF 438 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod hefyd yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Roedd fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar berfformiad 2018/19, adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant a dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant. Bydd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am berfformiad a data alldro a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru a fydd yn cael eu cynnwys pan fydd canlyniadau ar gael.
Gofynnwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod yr Awdurdod yn cynnal ystod o fentrau, ac mae llawer ohonynt yn deillio o bortffolio Cymunedau a Materion Gwledig. Cafodd gwelliannau eu gwneud gyda chynnydd mewn cyflogaeth a thwristiaeth. Roedd yr Awdurdod ei hun wedi cynyddu cyflogau o'r isafswm cyflog i'r cyflog byw.
Dywedodd y swyddogion fod hyn wedi'i drafod yn y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a byddai'n cael ei adrodd nôl.
Dywedodd y swyddogion nad oedd y data wedi'i gyflwyno eto a byddai'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru ar ôl iddo gael ei gyflwyno.
Penderfynwyd bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y sefyllfa ariannol derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.
Dangosodd y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fod gorwariant o £816k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£366k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol ynghylch yr adroddiad:
Atodiad B
Dywedodd y swyddogion fod hyn bellach yn rhan o'r gyllideb graidd a bydd yn aros ar y lefel bresennol ar hyn o bryd.
Penderfynwyd bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|