Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer. 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. L. Fox, E.M.J.G Schiavone a D.T. Williams.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2019 PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2019 (Chwarter 1), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2018-23 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2019/20 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2019.
Codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder na fodlonwyd y targed perfformiad o ran Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig a'r Rheolwr Ardal Leol mai'r prif reswm dros hyn oedd oherwydd problemau o ran trosglwyddo i'r sector cartrefi gofal yn ystod y cyfnod adrodd diwethaf. Eglurwyd hefyd fod yr amserau o ran sut oedd y ffigurau'n cael eu cadarnhau yn dangos ciplun yn unig ar gyfer y cyfnod penodol hwnnw. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal yn thema barhaus, ond bod gwelliannau wedi'u gwneud yn y maes hwn a bod gwaith yn parhau gyda'r tîm comisiynu i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau'n brydlon.
· Gofynnwyd beth oedd yr amser hiraf yr oedd claf wedi aros cyn cael ei anfon adref.
Dywedodd y Rheolwr Ardal Leol fod hyn yn dibynnu ar ble'r oedd y claf yn byw. Weithiau gallai rhai cleifion mewn lleoliadau gwledig aros ychydig wythnosau. Roedd yr amserlenni ar gyfer trosglwyddo i gartrefi gofal yn fyrrach ar y cyfan, sef 3-4 diwrnod.
· Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd sefyllfa yn datblygu bellach lle roedd gan staff amser neilltuedig ar gyfer dysgu a datblygu.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod dysgu a datblygu yn flaenoriaeth allweddol i'r maes gofal cymdeithasol oedolion a bod rhaglen dysgu a datblygu gynhwysfawr ar waith. Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithdai dysgu ymarfer a gweithdai dysgu gan gymheiriaid.
Dywedodd y Rheolwr Ardal Leol fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r tîm Dysgu a Datblygu a bod rhaglen dreigl o hyfforddiant yn ymwneud â phynciau megis trefniadau diogelu rhag colli rhyddid a llesiant meddyliol. Roedd y ddarpariaeth e-ddysgu hefyd yn cynnwys pynciau megis trais domestig a'r Gymraeg. Roedd ystafelloedd tawel ar gael ar gyfer e-ddysgu a darllen adroddiadau. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhaglen addysgu barhaus ar waith a bod staff yn cael 2 ddiwrnod i astudio a chyflawni modiwlau e-ddysgu.
Cytunodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig ei fod yn bwysig bod staff yn cael amser priodol i ddysgu; fodd bynnag nid oedd y cysyniad o amser neilltuedig yn bodoli ym maes Gofal Cymdeithasol. Er nad oedd amser neilltuedig, roedd yn galonogol nodi bod adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru yn cadarnhau bod y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl.
· Mynegwyd pryder nad oedd digon o staff ac y byddai recriwtio yn lleihau'r pwysau ar y staff presennol.
Dywedwyd wrth y pwyllgor fod recriwtio yn broblem genedlaethol ar draws y sector a bod Llywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynyddu'r proffil ar gyfer recriwtio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CANMOLIAETH A CHWYNION 2018/19 PDF 251 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar ddadansoddiad sylfaenol o'r Ganmoliaeth a'r Cwynion a dderbyniodd y Cyngor yn y flwyddyn ariannol 2018/19. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt, yn cynnwys dadansoddiad o gwynion a chanmoliaeth fesul adran a'r cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt.
Gofynnwyd cwestiwn cyffredinol am yr ystadegau o ran y cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt.
Dywedodd y Rheolwr Cwynion a Llywodraethu Gwybodaeth, pe byddai'n derbyn manylion am y wybodaeth benodol sydd ei hangen drwy e-bost, byddai'n hapus i ddarparu'r wybodaeth honno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £754k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai £2k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.
Codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Atodiad A
· Gofynnwyd a oedd arwydd bod y gorwariant o £754K yn lleihau.
Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor ei fod yn rhy gynnar i ateb y cwestiwn hwnnw gan fod yr adroddiadau wrthi'n cael eu casglu a'u dadansoddi. Byddai rhagor o wybodaeth ar gael ar ddiwedd y mis.
Atodiad B
· Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Therapi Galwedigaethol yn flaenoriaeth ac er nad oedd y broblem wedi'i datrys, gwnaed cynnydd sylweddol
· Gofynnwyd beth oedd yn cael ei wneud i leihau cost a dibyniaeth ar staff asiantaeth.
Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei fod yn gwbl ymwybodol nad oedd y ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn gynaliadwy ac y byddai dull pendant yn cael ei roi ar waith mewn 3-6 mis. Byddai'r dull yn seiliedig ar 'fuddsoddi i arbed' a byddai'n cymell staff presennol.
Atodiad F
· Gofynnwyd, o blith y 199 o gleientiaid Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu a oedd yn cael eu hariannu mewn cartrefi Gofal Preswyl Preifat, a oedd modd darparu manylion ynghylch niferoedd, cost, lleoliad a dadansoddiad o ddarparwyr.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y data ar gael a gellid ei ddarparu hefyd i'r Pwyllgor. Dywedwyd hefyd y llwyddwyd i symud nifer o gleifion o leoliadau preswyl i fyw â chymorth, a bod nifer y cleifion sy'n mynd i gartrefi gofal wedi lleihau.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD PDF 365 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2018/19.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 8 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:
· Archwiliad gan Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Pobl H?n.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Tachwedd, 2019.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3YDD GORFFENNAF, 2019 PDF 341 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 3 Gorffennaf, 2019 gan eu bod yn gywir.
|