Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Iau, 5ed Mawrth, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies, K. Davies, K. Lloyd a M.J.A. Lewis.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £708k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£31k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad B - Y Prif Amrywiadau

  • Gofynnwyd am esboniad ynghylch yr arbedion a gyflwynwyd yn rhannol yng nghontract Cwm Aur.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p nad oedd hi'n gwybod ond byddai'r swyddog perthnasol yn gallu esbonio.

  • Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol gan fod y broblem wedi bodoli ers cryn amser.  

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol yn broblem genedlaethol a hefyd yn flaenoriaeth i'r Awdurdod ei datrys. Er bod y broblem yn parhau i fodoli, roedd cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud.

·         Gofynnwyd pam roedd yr incwm ar daliadau uniongyrchol wedi aros ar yr un lefel a hynny pan oedd y galw am wasanaeth wedi cynyddu.

Dywedodd yr Uwch reolwr Cymorth Busnes y byddai rhai taliadau uniongyrchol a dderbynnir yn cael eu cymhwyso i'r llinell gofal cartref. Roedd yr adroddiad yn ceisio adlewyrchu'r symudiadau rhwng ardaloedd ond doedd hynny ddim yn bosibl bob amser.

·         Gofynnwyd i swyddogion a oedd defnyddwyr gwasanaeth wedi'u hailasesu yn sgil y gostyngiad mewn gofal dau ofalwr.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gofal yn cael ei werthuso'n barhaus ac nad oedd gostyngiad mewn gofal dau ofalwr yn ymgais i leihau costau.  Os byddai'r gofalwyr yn rhoi gwybod bod angen gofal ychwanegol ar ddefnyddwyr, byddai gofal dau ofalwr yn cael ei adfer.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch gorwariant ar staffio yng Nghanolfan Ddydd Coleshill.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod trefniadau staffio wedi cael eu newid wrth i staff y 3ydd sector gael eu disodli gan staff yr Awdurdod, a oedd wedi cynyddu cost.  Byddai'r offer diweddaraf yn lleihau'r angen am ofal dau neu dri gofalwr a'r cynllun tymor hir oedd i leihau costau staffio.

·         Cyfeiriwyd at wariant ar staff asiantaeth yng nghartrefi gofal yr Awdurdod.

Cadarnhawyd bod hwn yn fater penodol ar gyfer cartrefi gofal preswyl, fodd bynnag, roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud i wella cymhareb staffio.  Fel arfer byddai staff asiantaeth ond yn cael eu defnyddio os oedd perygl i wasanaethau rheng flaen.

 

Atodiad C - Yr Amrywiadau'n Fanwl

·         Gofynnwyd i swyddogion am egwyddorion ‘front loading’ gan y byddai gorwariant helaeth yn diflannu yn aml.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai ffigyrau newid ar raddfa gyflym ar sail ystod o resymau gan gynnwys, incwm hwyr gan Lywodraeth Cymru (megis taliadau pwysau gaeaf) ac incwm cleient. Roedd hi'n anodd rhagweld sefyllfa incwm cleient ar sail fforddiadwyedd.

 

Atodiad F - Adroddiad Monitro Arbedion

·         Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf ynghylch adolygiad o Leoliadau Cysylltu Bywydau.

Dywedodd y Pennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU GRWP GORCHWYL A GORFFEN pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried nifer o awgrymiadau ac wedi cytuno i gynnal adolygiad i Atal Hunanladdiad yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl i'r aelodau ofyn am awgrymiadau ar gyfer prosiectau posibl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Cafodd trafodaethau'r Pwyllgor o ran prif nodau ac amcanion yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen eu cofnodi a'u datblygu mewn dogfen cynllunio a chwmpasu ddrafft, a oedd yn cynnwys nodau a chwmpas yr adolygiad, ac a oedd yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor i'w hystyried a'i chymeradwyo. 

 

Yn ogystal, roedd angen i'r Pwyllgor gadarnhau'r aelodau a ddylai fod yn rhan o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a ddylai gynnwys hyd at 7 aelod sy'n wleidyddol gytbwys.

 

Dywedwyd y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar 16 Mehefin, 2020 pan gafodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd eu penodi o blith aelodau'r Gr?p.  Byddai swyddogion yr Adran Cymunedau a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.2

cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.2

bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

·         Y Cynghorydd Ieuan Wyn Davies [Is-gadeirydd]

·         Y Cynghorydd Amanda Fox

·         Y Cynghorydd Ken Lloyd

·         Y Cynghorydd Louvain Roberts

·         Y Cynghorydd Emlyn Schiavone

·         Y Cynghorydd Gwyneth Thomas [Cadeirydd]

·         Y Cynghorydd Dorian Williams

5.3

Teitl y Ddogfen Gwmpasu "Ymyrraeth Gynnar ac Atal Hunanladdiad yn Sir Gaerfyrddin".

 

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Strategaeth Anableddau Dysgu (2018/2023) – er mwyn cydymffurfio â’r broses gymeradwyo, nodwyd na fyddai’r adroddiad ar gael tan fis Mai.

·         Ymgynghoriad ar Gyllideb y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

7.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 15 Ebrill 2020.

9.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y 22AIN IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 21 Ionawr 2020 gan eu bod yn gywir.