Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans, G. Jones a D. Williams.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22. PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/20 – 2021/22, a oedd wedi cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 19 Tachwedd, 2018. Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22. Bydd yr effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.
Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.
· Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2019/20 - 2021/22 · Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:
· Cafodd y setliad amodol ei gyhoeddi ddydd Mawrth 9 Hydref 2018. Darparwyd ffigurau dangosol ar gyfer Awdurdodau Lleol unigol am un flwyddyn ariannol yn unig, sef 2019/20, ac nid oedd rhagor o wybodaeth am setliadau'r dyfodol. · Mae prif bwyntiau Setliad Dros Dro 2019/2020 ledled Cymru fel a ganlyn: o Pennwyd cyllid refeniw Llywodraeth Leol o £4.214 biliwn ar gyfer 2019-20, sef gostyngiad o 0.3% (£12.3 miliwn) o gymharu â 2018-19 o Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £13.7 miliwn wedi cael ei gynnwys ar gyfer cost dyfarniad Cyflog yr Athrawon mis Medi 2018, fodd bynnag £8.1 miliwn yn unig sydd wedi'i ddarparu. o Cyfeiriwyd at y £7 miliwn o gyllid ychwanegol i fodloni costau Awdurdodau Lleol sy'n deillio o ddull Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim. O ran hyn, mae'n amlwg mae £4 miliwn yn unig sydd wedi cael ei ddarparu · Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, cafwyd gostyngiad o 0.5% (£1.343 miliwn) yn y setliad dros dro. Mae'r Cyllid Allanol Cyfun felly yn gostwng i £258,831k yn 2019/20. · Gan roi sylw i gyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau, y gostyngiad ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw 0.7% (£1.873m). · Mae grant gwasanaethau cymdeithasol newydd gwerth £30 miliwn ledled Cymru ond ni wyddys manylion y grant hwn eto. · Mae pwysau sylweddol ar fil cyflogau presennol y Cyngor oherwydd dyfarniad cyflog yr athrawon 2018 ac yn sgil rhoi colofn gyflogau y cytunwyd arni'n genedlaethol ar waith. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn rhoi ystyriaeth i effaith y cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwr o ran Pensiwn Athrawon, sef effaith blwyddyn lawn o oddeutu £4.5 miliwn. · Mae cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod a glustnodwyd yn dirywio oherwydd y gostyngiad o ran y cymorth ar gyfer y rhaglen gyfalaf a gytunwyd gan y Cyngor. · Mae'r Awdurdod yn cynnig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2019/20 - 2022. PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (noder: roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2019/20 – 2022 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:
· Gwasanaethau Gofal a Chymorth · Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu · Gwasanaethau Integredig · Gwasanaethau Comisiynu.
Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu. Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam y mae'r broses o drosglwyddo Gwasanaethau Allied Healthcare i'n gofal cartref mewnol wedi'i nodi dan Flaenoriaethau Gwasanaeth gyda'r dyddiad Mawrth 2020. Rhagdybiwyd bod y broses drosglwyddo wedi'i chwblhau.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor na fydd Allied Healthcare yn cael ei integreiddio'n llawn tan fis Ebrill 2019, sef y rheswm dros ei gynnwys yn y Blaenoriaethau Gwasanaeth.
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y dyddiadau ar gyfer datblygu'r Pentref Llesiant newydd yn Llanelli. Nodir mis Mawrth 2022 ar hyn o bryd.
Gan fod agwedd hamdden yr adroddiad o fewn cylch gwaith y Pennaeth Hamdden, cytunodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i gyflwyno'r cwestiwn hwn i'r Pennaeth Hamdden gan ofyn iddo roi ymateb i'r Pwyllgor.
· Mynegwyd pryderon ynghylch y prinder cartrefi yn y Sir ar gyfer pobl h?n, ac ymddengys bod y cynllun presennol ar gyfer tai fforddiadwy yn seiliedig ar ddata hanesyddol o arolwg anghenion tai a gynhaliwyd yn 2008.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cynllun Tai Fforddiadwy yn ymdrin â'r angen am gartrefi ar gyfer pobl h?n a'r defnydd o addasiadau a thechnoleg. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu hefyd fod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cynnal archwiliad yn ddiweddar a bydd y data yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2019/20 - 2022 yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Diwygiadau Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Codi Tâl ar Oedolion am Wasanaethau.
Mae'r adroddiad yn nodi'r polisi diwygiedig, gan gyfuno'r polisïau blaenorol a'r polisi interim y cytunwyd arno yn 2016.
Crynodeb o bwyntiau'r polisi. · Mae Lwfans Personol wedi'i ailenwi yn Isafswm Incwm a fydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru. Mae 2018-19 wedi'i bennu yn £28.50 yr wythnos (Diwygir hyn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru) · Mae Taliadau Dibreswyl yn berthnasol o ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth. · Ni chodir tâl ar bobl ag anghenion gofal a chymorth sydd wedi cael diagnosis o CJD, ar gyfer gwasanaethau cartref neu wasanaethau amhreswyl. · Gall yr awdurdod lleol bellach godi llog ar daliadau gohiriedig o ddyddiad y cytundeb. · Codir tâl ar breswylwyr tymor byr mewn cartref gofal bellach fel pe baent yn derbyn gwasanaethau amhreswyl. · Bydd rheolau o ran dewis o lety yn berthnasol i leoliadau "Dros dro / Parhaol" mewn cartref gofal, ond ni fydd yn berthnasol i leoliadau "Tymor byr". · Newidiwyd enw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i "Gostau Ychwanegol" a bydd yn dal yn berthnasol, ond bydd bellach yn cael eu cyfrifo gan ystyried cost uchaf y 2 gartref sydd ar gael, ac nid y pwynt canol yn unol â Pholisi Interim 2016.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch codi tâl am ofal seibiant.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes fod trefniadau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn dilyn asesiad gan Weithiwr Cymdeithasol. Pan ystyrir bod angen lleoliad ar berson am lai nag 8 wythnos, bydd y lleoliad hwnnw yn cael ei ystyried dan reolau amhreswyl. Gall person gael seibiannau lluosog o fewn unrhyw gyfnod sy'n cael ei ystyried yn dymor byr ac sydd, gyda'i gilydd, dros 8 wythnos.
Mae'r gost fesul noson ar gyfer lleoliadau tymor byr yn seiliedig ar gost lawn y lleoliad.
· Gofynnwyd a yw'r gost ar gyfer gofal seibiant yn seiliedig ar brawf modd.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan fo person yn cael prawf modd, mae'r swm a godir wedi'i gapio – £80 yr wythnos ar hyn o bryd.
· Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am daliadau gohiriedig.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan gytunir ar daliad gohiredig, bydd yn galluogi pobl i ohirio talu am rywfwaint neu'r holl gostau gofal er mwyn sicrhau nad oes angen iddynt werthu eu heiddo pan fyddant yn mynd i gartref gofal. Bydd yr Awdurdod yn ceisio cael blaenoriaeth arwystl dros yr eiddo, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau bydd yn ail arwystl. Mae gan yr Awdurdod yr hawl i dynnu'r gwasanaethau yn ôl os nad yw person wedi talu ei ffioedd. Dywedwyd nad yw Caerfyrddin wedi tynnu gwasanaeth eto. Yn hytrach, byddai'r awdurdod yn ceisio cael taliad gan yr ystad.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. PDF 47 KB Cofnodion: Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod heddiw :-
· Y wybodaeth ddiweddaraf am weithio mewn partneriaeth a gweithio'n rhanbarthol
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher 23 Ionawr 2019.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22AIN O DACHWEDD. PDF 271 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018, gan eu bod yn gywir.
|