Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Aled Davies, Alun Davies, Arwel Davies, Mark Harris, Andrew Thomas o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem, i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion y cyngor ynghylch Cynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energy.
Nodwyd bod cais am ollyngiad wedi ei gyflwyno gan 5 Cynghorydd ac roedd gan bob un ohonynt fuddiant rhagfarnol yn y materion sy'n ymwneud â Chynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energy. Bu'r aelodau'n ystyried y rhestr o fuddiannau personol a atodwyd i'r adroddiad.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais yn cyfeirio at y ffaith bod y 5 Cynghorydd gyfystyr â 41% o gyfanswm aelodaeth y Cyngor.
Wrth nodi bod gollyngiadau a roddwyd yn flaenorol i Gynghorwyr eraill wedi'u gwneud mewn perthynas â buddiannau tebyg, fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd yr Aelodau'n teimlo bod angen bod yn gyson ac yn deg mewn perthynas â'r cais hwn o ran peidio â phleidleisio.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(2)(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Aled Davies, Alun Davies, Arwel Davies, Mark Harris, Andrew Thomas SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Ynni Tywi Wysg Bute Energya bod y gollyngiadau hyn yn ddilys tan ddiwedd cyfnod presennol y Cynghorwyr dan sylw yn y swydd.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD PETER COMLEY Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Peter Comley o Gyngor Cymuned y Betws am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion y cyngor ynghylch Clwb Rygbi'r Betws mewn perthynas â'r buddiannau personol a rhagfarnol canlynol:
· Clwb Rygbi'r Betws – Mae'r Cynghorydd Comley yn Aelod o'r Pwyllgor, ac ef yw'r Ysgrifennydd, y Trysorydd a'r Trwyddedai ar gyfer Clwb Rygbi'r Betws
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Comley fuddiant rhagfarnol a phersonol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (2)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Peter Comley SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn cyfarfodydd mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi'r Betws a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.
|
|
UNRHYW FATERION ARALL Y DYLID, YM MARN Y CADEIRYDD, EI YSTYRIED YN FATER BRYS OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|