Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 22ain Ebrill, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Meeting with Group Leaders 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J Tremlett, Arweinydd Gr?p Annibynnol y Cyngor, a oedd wrthi’n ymwneud â mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 4 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2024 yn gofnod cywir.

4.

CYFARFOD AG ARWEINWYR GRWPIAU GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Darren Price, Arweinydd Gr?p Plaid Cymru'r Cyngor, a'r Cynghorydd Deryk Cundy, Arweinydd Gr?p Llafur y Cyngor, a wahoddwyd i'r cyfarfod mewn cysylltiad ag eitem 4 ar yr agenda – Cyfarfod ag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol. Dywedodd er nad oedd y Cynghorydd Tremlett yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, ei bod wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig a dywedodd y byddai'n gallu mynychu cyfarfod yn y dyfodol pe bai'r pwyllgor yn dymuno iddi wneud hynny.

 

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ystyriodd y Pwyllgor a oedd yr Adroddiadau Blynyddol a gafwyd gan arweinwyr tri Gr?p gwleidyddol y Cyngor yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf 2021 i:

 

·     cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau a;

·     chydweithredu â Phwyllgor Safonau'r Cyngor wrth arfer swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau.

 

Roedd y Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar y Pwyllgor Safonau i fonitro cydymffurfiaeth gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor o ran eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, a chyhoeddi adroddiad blynyddol y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad y pwyllgor o ran i ba raddau y mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf 2021.

 

Roedd canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymhelaethu ar y dyletswyddau hyn ac yn nodi y dylai Arweinwyr Grwpiau gwrdd â'r Pwyllgor Safonau cyfan ar ddechrau bob blwyddyn i gael trafodaeth.

 

(1) amlder y cyfarfodydd rhwng y Pwyllgor ac Arweinwyr Grwpiau yn ystod y flwyddyn,

(2) cydymffurfiaeth yr Arweinwyr Grwpiau â'u dyletswyddau o dan Ddeddf 2021,

(3) y broses adrodd flynyddol a

(4) unrhyw faterion sy'n codi yn sgil dadansoddi cwynion mewn perthynas â safonau ymddygiad.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan y Cynghorydd Price a'r Cynghorydd Cundy ar eu hadroddiadau blynyddol a'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf 2021 gan drafod y materion canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr Hyfforddiant Côd Ymddygiad a ddarperir i aelodau etholedig a pha mor aml y darperir yr hyfforddiant. Teimlwyd y dylai pob aelod newydd gael hyfforddiant yn dilyn eu hethol, a dylai cynghorwyr sy'n dychwelyd dderbyn hyfforddiant gloywi. Wedi hynny, mynegwyd barn y dylid darparu hyfforddiant gloywi i bob aelod hanner ffordd drwy'r cyfnod etholiadol, a allai gynnwys darpariaeth ar-lein.

·         O ran amlder cyfarfodydd rhwng yr Arweinwyr Grwpiau a'r Pwyllgor, mynegwyd y dylid eu cynnal yn flynyddol.

·        Cyfeiriwyd at astudiaethau achos a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Safonau ar ganlyniad ymchwiliadau i gwynion a wnaed yn erbyn aelodau etholedig ledled Cymru, boed hynny'n dilyn gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau neu wrandawiadau Panel Dyfarnu Cymru. Teimlwyd y byddai dosbarthu'r adroddiadau hynny i aelodau etholedig y Cyngor o fudd fel dull o ddysgu ar y cyd, yn enwedig mewn perthynas â chwynion yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y Swyddog Monitro y gellid gwneud trefniadau er mwyn i'r Arweinwyr Grwpiau gael dolen i Agenda'r Pwyllgor Safonau pan oedd astudiaethau achos yn cael eu hystyried i'w dosbarthu i'w haelodau ar ôl hynny.

·      Gwnaed sawl cyfeiriad at ddefnydd aelodau etholedig o'r Cyfryngau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.