Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16 IONAWR 2024 PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024 gan eu bod yn gywir. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD NEWYDD Y PWYLLGOR PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn ymadawiad yr Is-Gadeirydd blaenorol, bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor.
Diolchodd aelodau'r pwyllgor i \gyn Is-gadeirydd y Pwyllgor, Julie James, am ei chyfraniad rhagorol i waith y Pwyllgor Safonau wrth hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan gynghorwyr etholedig ac aelodau cyfetholedig o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Daphne Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor. |
|
ADOLYGU COFNOD O GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CoD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ynghylch darparu hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer 2024.
Wrth ystyried y trefniadau hygyrchedd, atgoffwyd y Pwyllgor fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023, wedi cymeradwyo y dylid ystyried cynnal sesiynau yn y dyfodol o bell oherwydd y lefel isel o bresenoldeb wyneb yn wyneb a'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i hwyluso hyfforddiant hybrid / aml-leoliad. Dywedwyd y byddai gwe-ddarllediad byw sesiwn hyfforddi o bell a gynhelir ar wefan y Cyngor yn galluogi cynghorau i gael mynediad i'r hyfforddiant am gyfnod o 6 mis, felly dim ond un sesiwn oedd ei hangen. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd yr hyfforddiant a mynegodd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo'r Cyngor gyda'i ofynion casglu data drwy gadarnhau eu presenoldeb yn y sesiwn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio hyfforddi ar-lein neu ar lafar ar ddechrau'r hyfforddiant.
Adolygodd y Pwyllgor y cyflwyniad hyfforddi a oedd wedi'i ddiweddaru i gynnwys y penderfyniadau diweddaraf gan Banel Dyfarnu Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddarparu un sesiwn hyfforddi côd ymddygiad ar-lein ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ym mis Mehefin/Gorffennaf 2024 yn ôl argaeledd y cyflwynwyr, gyda'r gwe-ddarllediad ar gael ar wefan y Cyngor am gyfnod o 6 mis. |
|
YMARFER CASGLU DATA YNGHYLCH CÔD YMDDYGIAD CYNGOR TREF A CHYMUNED PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r Côd Ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Cyngor i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gydymffurfiaeth y cynghorwyr hyn â'r côd, gan gynnwys y canlynol:
1. Datgan buddiannau 2. Ceisiadau am ollyngiad 3. Cwynion ynghylch y côd ymddygiad 4. Hyfforddiant côd ymddygiad 5. Cynllun Hyfforddi y Cyngor
Gofynnwyd am farn y Pwyllgor ar y cwmpas a'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer ymarfer casglu data 2024.
Er mwyn lleihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r ymarfer casglu data, cynigir bod y data'n cael ei gasglu drwy arolwg Snap ar-lein, gyda'r nod o gyflwyno'r canlyniadau i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol drwy ddefnyddio siartiau a graffiau, gan alluogi, lle bo'n bosibl, cymharu â chanlyniadau blwyddyn flaenorol y cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cwestiynau y manylir arnynt yn yr adroddiad, ynghyd â defnyddio arolwg Snap ar-lein ar gyfer ymarfer casglu data Côd Ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD RODERICK GRIFFITHS PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedwyd bod gan y Cynghorydd Griffiths fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn fel · mae ef/ei deulu yn berchen ar dir gerllaw 'Y Grîn’; · mae gan ei deulu fudd cyfamod cyfyngu dros ran o'r tir dan sylw. Mae'r cyfamod hwn yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei wneud gyda thir ac ar dir a drosglwyddwyd i'r Cyngor ym 1980. Mae'r tir hwn yn ffurfio rhan o'r ardal a gwmpesir gan y newidiadau arfaethedig i 'Y Grîn’; · mae ei deulu'n berchen ar fusnes sy'n gweithredu ar dir sy'n ffinio â'r Grîn.
Roedd y Cynghorydd Griffiths yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(f) – mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 ar gyfer y Cynghorydd Roderick Griffiths i SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â'r 'Grîn' yn Llansteffan a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MARY MARGARET WENMAN PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan Cynghorydd Mary Margaret Wenman o Gyngor Tref Porth Tywyn a Phen-bre am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â hen safle Ysgol Copperworks ym Mhorth Tywyn.
Dywedwyd bod gan y Cynghorydd Wenman fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn gan ei bod yn Gadeirydd 'Cyfeillion Copperworks' sefydliad gwirfoddol sy'n dymuno dylanwadu ar y Cyngor Tref dros ddyfodol yr adeilad sy'n weddill ar y safle a'i brydlesu. Roedd y cais hefyd yn manylu ar aelodaeth y Cynghorydd Wenman o'r 'gymdeithas Treftadaeth a Hanesyddol', ond nid oedd yn glir o'r cais pa fuddiant uniongyrchol sydd gan y gr?p hwn yn safle Copperworks.
Roedd y Cynghorydd Wenman yn gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
1. Rheoliad 2(a) nid oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol sy'n ystyried y busnes fuddiant sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw. 2. Rheoliad 2(d) mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai ymwneud â'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd. 3. Rheoliad 2(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol. 4. Rheoliad 2(f) mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi'i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod 5. Rheoliad 2(g) mae'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef i'w ystyried gan bwyllgor trosolwg neu graffu ac nid yw buddiant yr aelodau yn fuddiant ariannol.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd Rheoliadau 2(e) a 2(g) yn debygol o fod yn berthnasol ac nad oedd unrhyw beth yn y cais i gefnogi'r tir o dan Reoliad 2(a). Fodd bynnag, barnwyd bod rheoliadau 2(d) a 2(f) yn berthnasol.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i Mary Margaret WenmanSIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â hen safle Ysgol Copperworks ym Mhorth Tywyn a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei thymor presennol yn y swydd. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN GRWP AR RAN AELODAU CYNGOR CYMUNED LLANLLAWDDOG PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad gr?p a gyflwynwyd gan y clerc i Gyngor Cymuned Llanllawddog mewn perthynas â 6 o'r 7 aelod presennol o' awdurdod hwnnw ar gyfer caniatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch gwifren uwchben Tywi/Teifi a gynigir gan Green Gen Cymru/Bute Energy.
Nodwyd bod y Cynghorwyr Deborah Dean, Elizabeth Gibbon, Havard Hughes, Darrell Lewis, Steven Mason a Peter Williams yn gwneud cais am ollyngiad a bod pob un ohonynt wedi cyflwyno datganiadau o fuddiant fel y manylir arnynt yn atodiad 1 o'r adroddiad.
Gofynnwyd am y gollyngiadau yn rhinwedd Rheoliad 2(a) nid oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol sy'n ystyried y busnes fuddiant sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw a Rheoliad 2(d) mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai ymwneud â'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd o ran busnes yr awdurdod perthnasol.
Fe wnaeth yr aelodau sylwadau ar nifer y ceisiadau am ollyngiadau a dderbyniwyd mewn cysylltiad â'r cynllun a nodwyd uchod, a'r goblygiadau posibl o ran cworwm ar gyfer cyfarfodydd cynghorau cymuned.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (a) a (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Deborah Dean, Elizabeth Gibbon, Havard Hughes, Darrell Lewis, Steven Mason a Peter Williams SIARAD, GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG A PHLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â gwifren uwchben Tywi/Teifi a gynigir gan Green Gen Cymru/Bute Energy a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd eu tymor presennol yn y swydd. |
|
BLAENRAGLEN WAITH 2024-2025 PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2024/25 a nodwyd yr adroddiadau allweddol y mae'n disgwyl eu derbyn yn ei gyfarfodydd chwarterol.
Wrth ystyried y Flaenraglen Waith, awgrymodd y Pwyllgor fod cofnodion cyfarfodydd Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau Cenedlaethol (Cymru), ynghyd â'r adroddiadau/cyhoeddiadau perthnasol o Banel Dyfarnu Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael eu hychwanegu at agendau'r cyfarfodydd d chwarterol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Flaenraglen Waith yn amodol ar gynnwys yr awgrymiadau uchod. |
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod. |