Agenda a Chofnodion

THIS MEETING WILL NOT BE WEBCAST, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 17eg Tachwedd, 2022 11.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd B.W. Jones a Mr F. Phillips.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.  OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

4.

ADOLYGIAD CYN GWRANDAWIAD MEWN PERTHYNAS Â'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN YR OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDDD TERRY DAVIES

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol (Paragraffau 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn ystod y cam hwn yn ymyrraeth ormodol a heb gyfiawnhad i fywyd preifat a theuluol y Cynghorydd dan sylw a thrydydd partïon eraill y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. 

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr D. Daycock , Cynrychiolydd Cyfreithiol i'r Cynghorydd T. Davies, a Ms. K. Shaw a Ms S. Jones o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r cyfarfod.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor, yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 4 Awst, fod ystyriaeth gychwynnol wedi'i rhoi i'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn manylu ar ganlyniadau eu hymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd  T. Davies wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod yr adroddiad wedi datgelu tystiolaeth oedd yn awgrymu fod y Côd Ymddygiad wedi'i dorri.  Penderfynodd y Pwyllgor roi cyfle i'r Cynghorydd T. Davies gyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad.

 

Prif ddiben yr Adolygiad Rhagwrandawiad oedd ystyried unrhyw gyfarwyddiadau a oedd yn angenrheidiol er mwyn cynnal y gwrandawiad terfynol. Yn unol â hynny, rhestrodd y Dirprwy Swyddog Monitro y cyfarwyddiadau sydd eu hangen o ran darparu tystiolaeth, lleoliad y gwrandawiad terfynol, amseriadau a chulhau materion eraill. 

 

Cafodd Ms K. Shaw o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Mr. D Daycock, Cynrychiolydd Cyfreithiol y Cynghorydd T. Davies, wahoddiad i annerch y Pwyllgor ynghylch cynnydd pellach yr achos.

 

Wrth ystyried yr amseriadau a'r cyflwyniadau ysgrifenedig i'w darparu mewn perthynas â dogfennau'r gwrandawiad terfynol, derbyniodd y Pwyllgor y gallai fod angen addasu unrhyw sylwadau o'r fath yng ngoleuni unrhyw faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gwrandawiad terfynol.

 

Ystyriwyd paragraffau 46-61 o adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn hapus gyda'r ffactorau fel yr oeddent wedi'u hysgrifennu, a dywedodd Cynrychiolydd Cyfreithiol y Cynghorydd T. Davies fod anghydfod ynghylch paragraffau 56-61.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at Gôd Ymddygiad yr Awdurdod ar gyfer Aelodau a chadarnhaodd fod cyngor ar ddatgan buddiannau wedi'i roi i'r Pwyllgor Safonau, ac y byddai'n cael ei ailadrodd cyn y gwrandawiad terfynol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

Fod y diffiniad o Wahaniaethu ar sail Hil sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwrandawiad terfynol.

4.2

Bod trefniadau yn cael eu gwneud i'r gwrandawiad gael ei gynnal dros gyfnod o ddeuddydd i ddechrau, yn seiliedig ar yr amcangyfrifon amser a ddarperir gan Gynrychiolydd Cyfreithiol a Chynrychiolydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

4.3

Bod y datganiad tyst sy'n nodi'r dystiolaeth ar gyfer y Cynghorydd T. Davies yn cael ei gyflwyno i'r Dirprwy Swyddog Monitro drwy e-bost o fewn 14  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys i'w hystyried.