Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25 MAWRTH 2021. PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD N. E. HOLMAN PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Gan fod y Cynghorydd Rob James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, cymerodd ran yn y drafodaeth ond nid oedd wedi pleidleisio].
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cymuned Nathan Edward Holman am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â chyllid a staff yng Nghyngor Cymuned Llan-non. Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi cael ei wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)c - gwaith y Cyngor sy'n effeithio ar eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol, neu lesiant, sefyllfa ariannol neu fuddiannau eraill rhywun sy'n byw gyda chi, neu rywun y mae gennych gysylltiad personol agos ag ef.
Roedd buddiant y Cynghorydd Holman hefyd yn rhagfarnol, oherwydd byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ei ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Holman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth:-
PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Nathan Edward Holman am ollyngiad i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llan-non mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â Chyngor Cymuned Llan-non yn cael ei wrthod.
|
|||||||
ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y Polisi Datgelu Camarfer a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn dangos y newidiadau a oedd wedi'u gwneud i'r polisi, ac felly, argymhellwyd y byddai'r eitem hon yn cael ei gohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y newidiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y Polisi Datgelu Camarfer tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.
|
|||||||
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 PDF 314 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r newidiadau deddfwriaethol o fewn Deddf Etholiadau a Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a sut y maent yn effeithio ar waith y pwyllgor.
Roedd y Ddeddf yn cynnwys sawl darpariaeth a fyddai'n effeithio ar waith y pwyllgor yn uniongyrchol fel a ganlyn:-
·
Gosod dyletswydd ar arweinwyr
grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal
ymddygiad o safon uchel ymhlith aelodau eu gr?p. ·
Gosod dyletswydd ar arweinwyr
grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r Pwyllgor Safonau wrth
roi swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw ar waith. ·
Newid swyddogaethau'r Pwyllgor
Safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth arweinwyr gr?p â'r
dyletswyddau uchod a rhoi cyngor a hyfforddiant iddynt mewn
perthynas â'r dyletswyddau hynny. · Cyflwyno gofynion statudol ar Bwyllgorau Safonau i lunio adroddiad blynyddol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, a rhagnodi bod cynnwys penodol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau hynny, sef: (a)Crynodeb o'r hyn sydd wedi cael ei wneud o ran cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt uchod. (b)Crynodeb o unrhyw adroddiadau neu
argymhellion a gafwyd. (c)Crynodeb o unrhyw gamau gweithredu a
gymerwyd yn dilyn rhoi ystyriaeth i unrhyw adroddiadau neu
argymhellion a gafwyd. (d)Asesiad i ba raddau mae arweinwyr
grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan
y Ddeddf. · Gosod dyletswydd ar Gynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau hyfforddiant ar gyfer eu haelodau a'u staff.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r newidiadau deddfwriaethol sy'n cael eu gwneud gan y Ddeddf a sut y maent yn effeithio ar waith y pwyllgor.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.
Rhoddwyd gwybod mai dim ond traean o'r Cynghorau oedd wedi ymateb i'r e-bost yn gofyn am wybodaeth am ddata yn ymwneud â chydymffurfiaeth gan y Cynghorau Tref a Chymuned. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai swyddogion yn anfon e-bost arall at y Cynghorau hynny sydd heb ymateb hyd yma ac y byddant yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael data gan Gynghorau Tref a Chymuned.
|
|||||||
HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ynghylch pa ddull a ddefnyddir i roi hyfforddiant i Gynghorau Tref a Chymuned a pha mor aml y byddai'n cael ei gynnal.
Penderfynodd y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2021 gynnig hyfforddiant côd ymddygiad pellach i Gynghorwyr Tref a Chymuned ar ffurf dau ddigwyddiad ar-lein yn ystod yr haf.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod fod llythyrau wedi cael eu hanfon at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn rhoi gwybod iddynt am yr hyfforddiant ac yn gofyn am eu barn. O'r cynghorau a ymatebodd, roedd gan y rhan fwyaf ohonynt ddiddordeb mewn mynd i ddigwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, mynegodd nifer bach ohonynt bryder na fyddai rhai o'u haelodau yn gallu mynd i'r digwyddiad oherwydd diffyg offer addas neu ddiffyg hyder o ran eu defnyddio.
Nododd y Pwyllgor fod sawl cyngor wedi dangos diddordeb mewn rhannu'r sesiynau yn rhai gyda'r nos ac yn ystod y dydd er mwyn darparu ar gyfer patrymau gweithio eu haelodau.
Yng ngoleuni'r ymatebion, cynigiwyd felly bod 2 sesiwn ar-lein yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf, un yn ystod y prynhawn ac un gyda'r nos.
Y gobaith oedd recordio'r hyfforddiant a darparu dolen i Aelodau'r Cyngor na fyddent yn gallu mynd i'r dyddiadau hyfforddiant arfaethedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal dau sesiwn ar-lein ym mis Gorffennaf 2021, un yn y prynhawn ac un gyda'r nos.
|
|||||||
COFLYFR CÔD YMDDYGIAD OMBWDSMON PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd yn berthnasol i 2020.
Rhoddodd y coflyfr grynodeb o 9 achos lle ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau. Nododd y Pwyllgor fod un o'r achosion hyn yn ymwneud ag aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin a bod achos arall yn ymwneud ag aelod o Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|