Lleoliad: Remote attendance. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 21 IONAWR 2020 PDF 119 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2020 yn gofnod cywir.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DOROTHY JONES PDF 372 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Dorothy Louise Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gweithrediadau'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a sefydlwyd yn ddiweddar gan y Bwrdd Gweithredol i roi sylw i'r mater hwn y mae'r Cynghorydd Jones wedi'i phenodi i wasanaethu arno.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(i) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod yn rhiant i blant oedran ysgol sy'n byw yn y Sir.
Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar y canlynol 4.1. caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Dorothy Jones SIARAD A PHLEIDLEISIO ar unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan, a chan gynnwys, cyfarfod y Cyngor ar 8 Gorffennaf 2020; 4.2. awdurdodi'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i benderfynu ar unrhyw geisiadau eraill am ollyngiad sy'n ymwneud â'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a nodwyd uchod.
|
|
UNRHYW FATER BRYS ARALL Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod.
|