Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 6ed Gorffennaf, 2023 1.30 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD BETHAN CHARLES DAVIES pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Bethan Charles Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanwrda ynghylch y cynigion i godi peilonau trydan o Barc Ynni Nant Mithil i’r cysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o gynllun cysylltu â'r Grid Tywi Wysg Bute Energy.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Charles Davies fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan y byddai'r cynigion yr oedd Bute Energy wedi eu cyflwyno yn effeithio arni hi a chymdeithion personol agos iddi.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Charles Davies yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(2)(e) – mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Charles Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Bethan Charles Davies siarad yn unig, ond NID pleidleisio, ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanwrda ynghylch y peilonau trydan o Barc Ynni Nant Mithil i gysylltiad grid yn Sir Gaerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol. 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JOHN MACLAUGHLAND pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John Maclaughland am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli ynghylch Canolfan y Dywysoges Gwenllian yng Nghydweli.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Maclaughland fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan ei fod yn un o ymddiriedolwyr y Ganolfan.

 

Dywedwyd er nad oedd y Cynghorydd Maclaughland wedi nodi ar ba sail y gofynnir am y gollyngiad, awgrymwyd y byddai rheoliadau 2(2)(d) a 2(2)(f) yn briodol yn yr achos hwn h.y:-

 

Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol.

 

Rheoliad 2(2)(f) – mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Maclaughland, y byddai angen penderfynu hefyd ar hyd y gollyngiad hwnnw.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2) (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd John Maclaughland siarad yn unig ynghylch busnes y Cyngor yn ystod cyfarfodydd Cyngor Tref Cydweli ynghylch Canolfan y Dywysoges Gwenllian a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol. 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD NEIL LEWIS pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Sir Neil Lewis am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio, gwneud sylwadau ysgrifenedig ac arfer pwerau gweithredol mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan, effeithiolrwydd ynni a datgarboneddio.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Lewis fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan ei fod yn ymwneud yn bersonol â nifer o sefydliadau sy'n gweithredu yn y meysydd hynny yn y sir.

 

Dywedwyd er bod y Cynghorydd Lewis yn gofyn am ollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(a-g), fel y manylwyd yn yr adroddiad, ymddengys nad oedd 2(2) (a)(b)(c) ac (e) yn berthnasol yn yr achos hwn. O ran y cais am arfer pwerau gweithredol, nododd y Pwyllgor, gan nad oedd y Cynghorydd Lewis yn aelod o Gabinet y Cyngor, nad oedd ganddo unrhyw swyddogaethau gweithredol i'w harfer.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Lewis, y byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn, gan ystyried swyddi’r Cynghorydd Lewis fel Rheolwr a Chyfarwyddwr Anweithredol busnesau sy'n ymwneud â'r sector ynni, er y byddai'n berthnasol caniatáu gollyngiad i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig, na ddylid caniatau gollyngiad i bleidleisio o ystyried ei ran yn y sector ynni.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (2)(d)(f) a (g) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Neil Lewis siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yn ystod cyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan, effeithiolrwydd ynni a datgarboneiddio a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WENDY HERON pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Wendy Heron am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y cyngor, yn ystod cyfarfodydd Cyngor Cymuned Henllanfallteg ynghylch darparu datrysiad i drin carthffosiaeth ar gyfer y neuadd gymunedol, y dafarn a nifer o gartrefi yn y pentref.

 

Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Heron fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath, gan ei bod yn un o ymddiriedolwyr neuadd y pentref. 

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Heron wedi gofyn am ollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d)(e)(f) a (h) h.y.:-

 

·       Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol.

·       Rheoliad 2(2) (e) - mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran sylweddol o'r cyhoedd.

·       Rheoliad 2(2)(f) – mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

·       Rheoliad 2(2)(h) - mae'r busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli heblaw fel cynrychiolydd yr awdurdod perthnasol ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes hwnnw ar yr amod na fydd unrhyw ollyngiad yn ymestyn i gymryd rhan mewn unrhyw bleidlais mewn perthynas â'r busnes hwnnw.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y Cynghorydd Heron hefyd wedi ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(c) sy'n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol, nad oedd hynny'n berthnasol yn yr achos hwn. Yn ogystal, nid oedd Rheoliad 2(2)(e) yn berthnasol gan nad oedd yn effeithio ar gyfran sylweddol o'r cyhoedd.

 

Pe bai'r Pwyllgor yn caniatáu cais y Cynghorydd Heron, byddai angen penderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Roedd y Pwyllgor wrth ystyried y cais, wedi gwneud sylw ar yr hyn a nodwyd yn y cais gan y Cynghorydd Heron sef y posibilrwydd na fyddai cworwm gan y Cyngor Cymuned pan oedd y mater uchod yn cael ei drafod, a phe bai amgylchiadau o'r fath yn codi, dylid caniatáu gollyngiad iddi hefyd bleidleisio.

 

Wrth ystyried yr uchod roedd y Pwyllgor o'r farn, heb dystiolaeth ategol bellach yn ymwneud â chworwm, na fyddai'n gallu derbyn y cais i ganiatáu gollyngiad i bleidleisio pe bai amgylchiadau o'r fath yn codi. Fodd bynnag, gan gofio bod y cyfarfod yr oedd y Cynghorydd Heron yn ceisio gollyngiad iddo i'w gynnal ym mis Gorffennaf 2023, awgrymwyd y gallai unrhyw ollyngiad a roddwyd fod hyd at ddiwedd mis Gorffennaf a thrwy hynny alluogi'r Cynghorydd Heron i gyflwyno cais am ollyngiad pellach yn nes ymlaen a hefyd i ddarparu eglurhad yn y cais hwnnw ar y sefyllfa o ran cworwm yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned.

 

Yn dilyn trafodaeth 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Wendy Heron siarad,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.