Agenda a Chofnodion

Reconvened, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 4ydd Awst, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aeloda Annibynnol, C. Davies ac F. Phillips a'r Cynghorydd Sir B. W. Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

4.

YSTYRIAETH GYCHWYNNOL O'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYN GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS A'R CYNGHORYDD TERRY DAVIES

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd i'r cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ynddo byddai datgelu ar y cam cychwynnol hwn o broses dau gam yn anghymesur a byddai'n tarfu'n anfanteisiol ar fywyd preifat a bywyd teuluol y Cynghorydd dan sylw.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a dderbyniwyd gan Swyddog Monitro'r Cyngor Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a nododd ganlyniadau'r ymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd Davies wedi torri côd ymddygiad yr aelodau. 

 

Cynhaliodd aelodau, yn unol â'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor, ystyriaeth gychwynnol o'r adroddiad ac yn seiliedig ar gynnwys adroddiad yr Ombwdsmon yn unig daeth i benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o doriad ac y dylai'r Cynghorydd Davies gael cyfle i gyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad