Agenda a Chofnodion

Adjourned, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 28ain Gorffennaf, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Aelod Annibynnol - Ms Caryl Davies.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD A GYNHALWYD AR 13 MEHEFIN, 2022. pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gofnod 9 a oedd yn datgan, 'Penderfynwyd yn Unfrydol’. Dywedwyd bod rhai aelodau o'r Pwyllgor wedi pleidleisio'n wahanol o ran penderfyniad 9.1 ac er bod geiriad y penderfyniad yn berthnasol, i adlewyrchu pleidlais y mwyafrif, nodwyd y dylid newid y cofnod fel ei fod yn darllen 'Penderfynwyd’. Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod angen ailedrych ar y gweddarllediad o'r cyfarfod er mwyn gwirio'r hyn oedd yn cael ei ddweud a newid y cofnodion yn unol â hynny, pe bai angen.

 

Yn ogystal, mewn perthynas â Chofnod 9, mynegwyd pryder ynghylch nifer y Cynghorwyr yr effeithir arnynt gan 'faterion ffermio' oherwydd yr ystod eang o ffactorau amrywiol yr oedd y term hwn yn eu cwmpasu o fewn y diwydiant ffermio. Roedd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith yn cytuno ac roedd o'r farn y byddai'n ddoeth rhoi eglurder i Aelodau drwy nodyn cyfarwyddyd penodol. Croesawodd y Pwyllgor y cynnig hwn a gofynnod am i hon fod yn eitem ar yr agenda yn y cyfarfod nesaf.

 

[SYLWER: Yn dilyn adolygu'r gweddarllediad o'r cyfarfod diwethaf.]

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2022 yn gywir, yn amodol ar y newidiadau canlynol:-

 

3.1      newid cofnod 9 o gyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2022 fel a ganlyn:-

 

9.1   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Kim Broom ac Elwyn Williams i SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol.

 

9.2 PENDERFYNWYD PEIDIO â chaniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorwyr Sir Jean Lewis, Ann Davies, Gareth Beynon Thomas, Ken Howell, Hefin Jones, Arwel Davies, Mansel Charles, Tyssul Evans, Kim Broom ac Elwyn Williams i BLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw faterion i'r Cyngor sy'n ymwneud â ffermio yn gyffredinol, tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol;

 

9.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorwyr a enwir uchod yn cael eu cynghori i geisio cyngor cyfreithiol pellach ac os oes angen, wneud cais am ollyngiad arall os byddant yn dymuno cymryd rhan ym musnes y Cyngor sy'n ymwneud yn benodol â hwy, neu sy'n debygol o effeithio arnynt hwy, neu'u cysylltiadau personol agos o ran gweithgareddau ffermio neu dir fferm.

 

3.2      bod nodyn cyfarwyddyd ar faterion gwledig yn cael ei ddatblygu a'i gynnwys ar yr agenda i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

 

4.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

6.

YSTYRIAETH GYCHWYNNOL O'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDD TERRY DAVIES

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon ar y cam cychwynnol hwn o broses ddau gam yn ymyrraeth anghymesur a direswm i fywyd teuluol y Cynghorydd dan sylw.

 

Cyn ystyried yr eitem hon, datgelodd rhai aelodau nad oeddent yn gallu cael mynediad i'r eitem gyfyngedig hon ar yr agenda oherwydd anawsterau technegol ac felly nad oeddent wedi gweld yr adroddiad a'r dogfennau ategol eto.  Yng ngoleuni hyn, ar ôl gofyn am gyngor cyfreithiol, cynigwyd felly bod y cyfarfod yn cael ei ohirio er mwyn datrys y broblem dechnegol a rhoi digon o amser i Aelodau ddarllen yr adroddiad a'r dogfennau ategol.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cyfarfod hwn a threfnu ailgynnull cyfarfod y Pwyllgor Safonau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl er mwyn ystyried yr eitem hon ar yr agenda.