Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Gilasbey.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B CHAPMAN - PWYLLGOR NEUADD Y DREF HENDY-GWYN PDF 374 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Neuadd Tref Hendy-gwyn ar Daf.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor.
Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwn mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd y Cyfreithiwr Graddedig dan Hyfforddiant wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Neuadd y Dref Hendy-gwyn ar Daf a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei gyfnod yn y swydd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a phleidleisio mewn perthynas â materion yn ymwneud â Gr?p Gweithredu Ffrindiau Dementia Talacharn, Sanclêr, Hendy-Gwyn ar Daf a'r Ardaloedd Cyfagos.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod ac yn Gadeirydd o Bwyllgor y Gr?p.
Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwn mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Dywedodd y Cyfreithiwr Graddedig dan Hyfforddiant wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhai oedd yn rhoi'r achosion mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor yn bwriadu cymeradwyo'r cais i siarad a phleidleisio.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Gr?p Gweithredu Ffrindiau Dementia Talacharn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf a'r Ardaloedd Cyfagos tan ddiwedd ei gyfnod yn y swydd.
|
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B CHAPMAN - PWYLLGOR WYTHNOS DDINESIG HENDY-GWYN PDF 374 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Barry Chapman o Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yn unig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Wythnos Ddinesig Hendy-gwyn ar Daf.
Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Chapman fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor.
Roedd buddiant y Cynghorydd Chapman hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwn mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.
Gan hynny, roedd y Cynghorydd Chapman wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Barry Chapman SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf mewn perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor Wythnos Ddinesig Hendy-gwyn ar Daf tan ddiwedd ei gyfnod yn y swydd.
|
|
ADOLYGIAD O'R POLISI CORFFORAETHOL YNGHYLCH DATGELU CAMARFER PDF 386 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Polisi Corfforaethol ynghylch Datgelu Camarfer, a oedd wedi'i adolygu gan y swyddogion yn sgil unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, cyfraith achosion a chanllawiau ers yr adolygiad diwethaf. Fodd bynnag, dywedwyd bod y swyddogion yn fodlon bod y Polisi'n parhau i fod yn addas at y diben ac felly nid oes angen ei adolygu ymhellach ar hyn o bryd.
Nododd y Pwyllgor fod cyfanswm o 6 ch?yn datgelu camarfer wedi dod i law rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Datryswyd un ohonynt ar ôl i ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach ac roedd y 5 mater arall yn mynd rhagddynt.
Yn ogystal, dywedwyd bod 3 achos wedi'u trosglwyddo o 2017/2018, ac ymysg y rheiny yr oedd un yn mynd rhagddo ar y pryd. O ran y 2 achos arall, ni chymerwyd unrhyw gamau pellach o ran un ohonynt gan nad oedd unrhyw dystiolaeth i ategu'r g?yn. Gwnaed argymhellion o ran yr achos arall i wella'r gweithdrefnau, sydd wedi'u gweithredu ers hynny.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i sylw, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n sicrhau bod adran 35 o'r polisi'n cael ei diweddaru i nodi'r manylion cyswllt cywir.
· Cyfeiriwyd at y Siart Llif Datgelu Camarfer a oedd ynghlwm wrth y polisi fel Atodiad A. Mewn ymateb i nifer o sylwadau a godwyd mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer swyddogion cyswllt a diogelwch personol, esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai pob achos yn destun asesiad risg ar sail unigol gan ddibynnu ar natur y g?yn. Yn ogystal, byddai'r swyddog yn ymdrin â'r achos gan arfer ei farn broffesiynol. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai cyfarfodydd un i un oddi ar y safle yn cael eu trefnu yn unol â pholisi Gweithio ar eich Pen eich Hun yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 nodi'r adroddiad; 6.2 cymeradwyo Polisi Corfforaethol y Cyngor ynghylch Datgelu Camarfer ar gyfer y 12 mis nesaf.
|
|
COFLYFR CÔD YMDDYGIAD PDF 370 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019. Manylai ar grynodebau o ymchwiliadau côd 4 a gynhaliwyd lle na ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth o dorri'r côd a 7 achos lle'r oedd yr Ombwdsmon yn credu nad oedd angen iddo gymryd camau er y daethpwyd o hyd i dystiolaeth.
Nododd y Pwyllgor fod un o'r achosion yn ymwneud â Chyngor Tref yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
DATA CYDYMFFURFIO Â'R CÔD PDF 373 KB Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelodau bod aelodau'r Pwyllgor, yn y cyfarfod ar 15 Mawrth 2019, wedi mynegi pryder bod cyfran sylweddol o Gynghorau heb ddarparu'r data y gofynnwyd amdano ar gyfer 2018/2019 ac nad oedd rhai Cynghorau erioed wedi darparu data mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor. Yng ngoleuni hyn, gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am i'r data hwn gael ei ddarparu ynghyd â diweddariad ynghylch y cynnydd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru a nodwyd bod cyfanswm o 35 o ymatebion wedi cael eu derbyn allan o 72 o Gynghorau, ar y dyddiad y lluniwyd yr adroddiad.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ddiweddariad ar lafar i'r Pwyllgor y byddai llythyr dilynol yn cael ei anfon yr wythnos hon i'r Cynghorau hynny nad ydynt wedi ymateb eto, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Medi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD 2019 PDF 387 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai wybodaeth am y trefniadau ar gyfer Hyfforddiant Côd Ymddygiad 2019.
Nodwyd yn yr adroddiad bod ymatebion wedi dod i law gan 13 o Gynghorau. Ymysg y rheiny;
· Roedd un Cyngor wedi nodi na fyddai'n manteisio ar y cynnig o hyfforddiant gan fod yr aelodau wedi cael hyfforddiant gan Un Llais Cymru yn ddiweddar. · Roedd un Cyngor wedi archebu lleoedd ar gyfer y sesiwn hyfforddiant yn Llanelli ar 10 Gorffennaf (cyfanswm o 3 chynadleddwr) · Mae 13 o Gynghorau wedi archebu lleoedd ar gyfer y sesiwn hyfforddiant yng Nghaerfyrddin ar 16 Gorffennaf (cyfanswm o 53 o gynadleddwyr)
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor mai'r sefyllfa bresennol oedd y byddai 89 o gynadleddwyr yn bresennol yn y sesiwn yng Nghaerfyrddin a dim ond 3 oedd wedi mynegi diddordeb yn y sesiwn yn Llanelli.
Nododd y Pwyllgor fod gormod o gynadleddwyr wedi cofrestru ar gyfer y sesiwn ar 16 Gorffennaf yng Nghaerfyrddin, a bod diffyg diddordeb yn y lleoliad yn Llanelli ar 10 Gorffennaf. Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, cynigiodd y Pwyllgor, ar ôl trafod nifer o opsiynau, ganslo'r sesiwn yn Llanelli a chynnal sesiwn ychwanegol yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin gyda'r hwyr ar 10 Gorffennaf 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1 dderbyn yr adroddiad; 9.2 canslo'r sesiwn yn Llanelli ar 10 Gorffennaf 2019; 9.3 trefnu sesiwn ychwanegol yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar 10 Gorffennaf 2019, yn ogystal â'r sesiwn hyfforddiant Côd Ymddygiad yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar 16 Gorffennaf 2019.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.
|