Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Suzy Curry ac Alan Speake
|
|
DATGANIADAU O FFUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
AELODAETH CYRFF ALLANOL PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor, yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol yn ddiweddar, y byddai angen i'r Awdurdod benodi cynrychiolwyr i nifer o gyrff allanol.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod enwebiadau ar gyfer penodiadau wedi'u cyflwyno ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgor, ar ôl ymgynghori ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, er bod mwyafrif yr enwebiadau ar gyfer seddau yn ddiwrthwynebiad, y byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu pwy y dylid ei benodi i Bwyllgor Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams gan fod mwy o enwebiadau na nifer y seddau oedd ar gael, a rhoddodd amlinelliad cryno o feini prawf y Cynllun er gwybodaeth i'r aelodau.
Hefyd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eu bod yn dal i aros am ddau enwebiad gan y Gr?p Llafur mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Cymunedol Hywel Dda a Phwyllgor Ysgoloriaeth Minnie Morgan.
PENDERFYNWYD bod penodiadau i gyrff allanol yn cael eu gwneud fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad, yn amodol ar y canlynol:-
· Ar sail blaenoriaethau'r cynllun o ran preswylfan, fod yr aelodau canlynol yn cael eu penodi i Bwyllgor Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams:-
Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a (6) o Gynghorwyr - Kim Broom, Tyssul Evans, Amanda Fox, Jeanette Gilasbey, John James a Hugh Shepardson.
·
Bod yr enwebiadau sy'n
weddill, fel y nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu hystyried yn y
cyfarfod nesaf.
|
|
COFNODION - 14EG RHAGFYR, 2016 PDF 286 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016.
|